Prynais i'r llyfr ma ddoe, gan fy mod yn licio'r gyfres a'r ffordd mae'r ffeithiau'n cael eu cyfleu mewn modd ysgafn a doniol. O berspectif Cymro, mae'n ymddangos yn hollol diduedd, ond dwi wedi sylwi ar wall sillafu neu ddau, ond bosib bod rhein yn fwy o typos. Un peth oeddwn yn meddwl yr oedd yn wall ond sydd ddim yn ymddangos felly yw "Ein Lliw olaf".
Ma'r llyfr yn ymdrin â'r hanes fel mae wedi neud efo hanesion pobloedd erill, ac yn gwneud hynny o'r oes paganaidd hyd at heddiw, wel mae'r hanes mwy diweddar yn fwy tenau na'r 1500 AD mlynedd cyntaf, ond yn sôn am bethau fel Dic Penderyn a Merched Beca etc.
Mae'n dangos yr ochor wirion ond gwir o'n hanes heb fynd mewn gormod o fanylder. Un darlun dwi'n licio yw am y ddau ddyn wnaeth sgwennu'r Llyfrau Gleision (Brâd y Llyfrau Geleision), a'r hyn mae un o'r dynion yn ei ddeud i'r llall "Living in their own country, going to their own churches speaking their own language - who do they think they are?". Mae'r llyfr mwy fel rough guide, felly dwi'n siwr neith bobol gwyno am fanylder neu diffyg adrodd o rai ddigwyddiadau.
Dwi'n meddwl fydd yr awdur Terry Deary yn ymddangos yn Borders Caerdydd hwyrach y mis yma, am lawnsiad swyddogol y llyfr.