Cilan a ddywedodd:Marwnad Sion y Glyn ydi un o gerddi mwya'r Gymraeg - rydw i'n teimlo bod dy wamalrwydd yn ei dibrisio braidd.
Ddim o gwbwl - trio gwneud y pwynt oeddwn i bod arholiadau yn dibrisio'r cerddi. Llinell o 'Mis Mai a Mis Ionawr' wnes i ddyfynnu, i drio dangos mor ynfyd ydi dull Lefel A o wneud i rywun werthfawrogi'r cerddi yma. Ac rwyt ti'n llygad dy le - does na ddim cerdd fwy dirdynnol na Marwnad Sion y Glyn yn yr iaith.
Mae ceffylau yng nghanu cynnar cynhysgaeth ein cenedl yn symbolau o wrywdod, cryfder a ffrwythlondeb - cymer y llinell honno o'r Gododdin 'Budduan ai cok mal ysstalvyn uu', y cysylltiad rhwng Rhiannon ac Epona, ac Efnisien yn difetha meirch Matholwch. Dwi'n credu mai cyfeirio at hyn y mae Gruffydd, a'i ergyd yw hyn: o ladd Llywelyn aeth Cymru'n ddiffrwyth, gwan a merchetaidd. Onid oes Freudiaeth yn hyn yn rhywle - ein bod yn genedl simsan yn seiliedig byth ers hynny ar ein hymdeimlad o annigonolrwydd o ran ffrwythlondeb, cryfder a gwrywdod? Sylwer hefyd ar yr iaith a ddefnyddir - at feirch
ifainc y cyfeirir gan Ruffydd, sy'n awgrym digamsyniol bod ysbryd y Cymry wedi'i dorri cyn i'r genedl ddod i'w llawn dwf, cyn i'r wlad gyrraedd ei llawn botensial gwrywaidd, cryf, ffrwythlon. A'r enw Saesneg ar y meirch ifainc hyn a ddefnyddir: gwelir yn ddwfn yn ei brydyddiaeth, hyd yn oed mewn delwedd sy eisoes mor gywrain-rymus o'n cwymp fel cenedl, gyfeirio yn yr iaith ei hun at dddylanwad cwymp Llywelyn arnom; gweld ein hiaith a'n henwau amaethyddol ni'n diflannu dan don o Seisnigeiddio.