Nantlais emyn

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Nantlais emyn

Postiogan Hazel » Maw 17 Meh 2008 9:29 pm

Oes unrhywun sy'n gwybod yr emyn 'ma gan William Nantlais Williams?

'Beth yw mesur glas y nen? Beth yw maint y sêr uwchben?'.

Diolch yn fawr.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Nantlais emyn

Postiogan Del » Maw 17 Meh 2008 9:37 pm

Dyma ni, Hazel:

Beth yw mesur glas y nen?
Beth yw maint y sêr uwchben?
Dweud mae'r bydoedd yn dy glyw,
blentyn bach, mor fawr yw Duw.

Beth yw iaith y blodau fyrdd
wena yn y meysydd gwyrdd?
Dweud mae'r blodau teg eu lliw,
blentyn bach, mor hardd yw Duw.

Beth yw iaith y meysydd ýd,
coed yr ardd a'r llysiau i gyd?
Dweud mae'r ffrwythau o bob rhyw,
blentyn bach, mor hael yw Duw.

Beth yw neges Iesu Grist,
cyfaill gorau'r galon drist?
Dweud o hyd mae'r hanes gwiw,
blentyn bach, mor dda yw Duw.

NANTLAIS, 1874-1959

(Er gwybodaeth, emyn rhif 115 yn Caneuon Ffydd.)
Rhithffurf defnyddiwr
Del
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 89
Ymunwyd: Llun 07 Maw 2005 2:20 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Nantlais emyn

Postiogan Hazel » Maw 17 Meh 2008 10:03 pm

Oh, diolch yn fawr. Roedd hynny'n gyflym. :) Oes teitl ganddo fo? Roeddwn i dim ond gwybod y geiriau cyntaf 'na. Diolch.

"Caneuon Fydd"? Dim ond tua hanner awr yn ôl y archebais "Caneuon Fydd"! Cyd-ddigwyddiad?
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Nantlais emyn

Postiogan Del » Maw 17 Meh 2008 10:20 pm

Croeso. Does dim teitlau i emynau yn Caneuon Ffydd, ond rwy' newydd edrych yn Llyfr Emynau a Thonau’r Plant (1947) a gweld taw 'Iaith y Greadigaeth' yw teitl yr emyn yn y fan honno. Gobeithio bod hyn o wybodaeth o help.

Balch clywed fod gwerthiant Caneuon Ffydd yn para'n dda!! :)
Rhithffurf defnyddiwr
Del
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 89
Ymunwyd: Llun 07 Maw 2005 2:20 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Nantlais emyn

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 17 Meh 2008 10:28 pm

Hazel, os am edrych i mewn i gefndir hon ynghyd a gweddill yr emynau yng Nghaneuon Ffydd beth am brynnu copi o Gydymaith Caneuon Ffyddhefyd? 8)
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Nantlais emyn

Postiogan Hazel » Maw 17 Meh 2008 10:30 pm

Diolch mwy na mwy. Dw i'n gwerthfawrogi hi. Bendithion.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Nantlais emyn

Postiogan Del » Maw 17 Meh 2008 10:31 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Hazel, os am edrych i mewn i gefndir hon ynghyd a gweddill yr emynau yng Nghaneuon Ffydd beth am brynnu copi o Gydymaith Caneuon Ffyddhefyd? 8)

Ew, hysbys am ddim i'r Cydymaith ar fy rhan - diolch i ti Rhys! :D
Ail argraffiad i ddod yn fuan, os Duw a'i myn.
Golygwyd diwethaf gan Del ar Maw 17 Meh 2008 10:43 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Del
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 89
Ymunwyd: Llun 07 Maw 2005 2:20 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Nantlais emyn

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 17 Meh 2008 10:40 pm

Del a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:Hazel, os am edrych i mewn i gefndir hon ynghyd a gweddill yr emynau yng Nghaneuon Ffydd beth am brynnu copi o Gydymaith Caneuon Ffyddhefyd? 8)

Ew, hysbys am ddim i'r Cydymaith ar fy rhan - diolch i ti Rhys! :D
Ail argraffiad i ddod yn fuan ... watch this space!


Doeddw ni ddim yn sylwi fod yr argraffiad cyntaf wedi gwerthu allan - llongyfarchiadau! A'i re-print union run peth fydd yr ail-argraffiad? Meddwl oeddw ni y byddai hi'n braf cael fersiwn clawr meddal gyda llai o wagle, ffont fymryn yn llai a chwtogi ar y rhagarweiniaid (nid oherwydd diffyg safon, jest er mwyn lleiau swmp y peth) - rhyw fath o fersiwn "pocket size" os wyt ti'n gwybod beth sydd gennai?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Nantlais emyn

Postiogan Hazel » Maw 17 Meh 2008 10:43 pm

Dyma o Gwales:

Cydymaith Caneuon Ffydd
Author: Delyth G. Morgans
ISBN: 9781862250697 (1862250693)
Publication Date October 2008
Publisher: Pwyllgor Caneuon Ffydd, Aberystwyth
Format: Hardback, 215x150 mm, 730 pages
Not yet published (Available: October 2008)
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Nantlais emyn

Postiogan Del » Maw 17 Meh 2008 10:54 pm

I ateb dy gwestiwn di Rhys, am wn i taw'r un fformat fydd yr argraffiad newydd. Ond diolch am yr awgrymiadau - fe wna'i basio'r sylwadau mlaen i'r rhai sy'n uwch na fi yn y penderfyniadau 'ma. Fe fydd 'na ychydig o ddiwygio yn y cynnwys - ambell gywiriad (naill ai oherwydd fy nhwpdra i yn yr arg. cyntaf, neu wallau teipio, ayb), a diweddaru gwybodaeth (e.e. rhai wedi marw, newid swyddi).

Hazel, ie, yr ail argraffiad yw hwnna; fe ddaw yn yr Hydref, gobeithio. Mae'r un gwreiddiol (Tachwedd 2006) hefyd ar Gwales, sef yr un gyfrol roddodd Rhys yn ei linc i Amazon (ISBN 9781862250529). Efallai fod 'na ambell gopi o'r argraffiad gwreiddiol mewn siop hwnt ac yma, ond does dim ar ôl yng Nghanolfan Ddosbarthu'r Cyngor Llyfrau.

Hei, sori bois, rwy' wedi troi edefyn am emyn Nantlais i drafod y Cydymaith! :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Del
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 89
Ymunwyd: Llun 07 Maw 2005 2:20 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai