llyfrau y dylai pob cymro/cymraes eu darllen?

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

llyfrau y dylai pob cymro/cymraes eu darllen?

Postiogan aderyn melyn » Maw 17 Meh 2008 11:30 pm

dwi wrthi'n ceisio darllen trwy 200 Big Reads y BBC ar hyn o bryd, ac mae hyn wedi gwneud i mi sylweddoli cyn lleid o lyfrau cymraeg dwi'n eu darllen. rhaid cyfaddef fod hyn yn codi cywilydd arnai, a dwi eisiau gwneud rhywbeth amdani. ond ble i ddechrau? dwi wedi chwilio, ond yn methu dod i hyd i rywbeth tebyg yn y gymraeg i'r rhestr big reads 'ma. felly pe bai rhestr felly o lyfrau cymraeg, pa lyfrau byddai'n haeddu lle arni?
Rhithffurf defnyddiwr
aderyn melyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Maw 17 Meh 2008 10:37 pm
Lleoliad: i fyny yn y goeden banana

Re: llyfrau y dylai pob cymro/cymraes eu darllen?

Postiogan Cacwn » Mer 18 Meh 2008 8:48 am

Sut fath o bethau ti'n licio?

Os am ffuglen wyddonol, mae'n job ffindio nofel well na Seren Wen ar Gefndir Gwyn gan Robin Llywelyn. Un arall dda, a doniol, ydi Blodyn Tatws gan Eurig Wyn.

Mae Smoc Gron Bach gan Eurig Wyn hefyd yn homar o lyfr da - dychrynllyd ar adegau, ond mae o'n gafael yndda ti fel cranc.

Os ti am yr ecwifilant o Pengwin Classic Cymraeg dos am Un Nos Ola Leuad gan Caradog Pritchard, Traed mewn Cyffion gan Kate Roberts neu Monica, Saunders Lewis.

Mae trioligy Semtecs gan Geraint V. Jones yn spy thrillers da, er fod y trydydd yn eitha gwan yn fy marn i.

Digon yn fana i ddechra am wn i! Be mae pawb arall yn feddwl?
One local resident, who didn’t want to be named, said: “It was horrendous. The lads from Porthmadog just went berserk.”
Rhithffurf defnyddiwr
Cacwn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 24
Ymunwyd: Gwe 06 Meh 2008 1:10 pm
Lleoliad: Ble bu rhywun o'r blaen

Re: llyfrau y dylai pob cymro/cymraes eu darllen?

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 18 Meh 2008 11:08 am

Fel ddywedodd Cacwn mae'n dibynnu beth ti'n hoffi'n bersonol.

Os ti isio llyfr doniol, beth am rhywbeth fel llyfrau Harri Parri (Mrs Pringle a'r Tatw, Shamus Mulligan a'r Parot a.y.b.) neu Brithyll a Madarch gan Dewi Prysor? Yn bersonol dw i wrth fy modd efo cyfrolau o straeon byrion, yn benodol Cathod a Chwn gan Mihangel Morgan neu Y Dwr Mawr Llwyd gan Robin Llywelyn.

Un byddwn i'n awgrymu i unrhyw un ydi Martha, Jac a Sianco - cythraul o nofel er y byddi di'n crio am bythefnos ar ei h,l.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: llyfrau y dylai pob cymro/cymraes eu darllen?

Postiogan osian » Mer 18 Meh 2008 1:10 pm

Cacwn a ddywedodd:Mae trioligy Semtecs gan Geraint V. Jones yn spy thrillers da, er fod y trydydd yn eitha gwan yn fy marn i.


Be di enw'r trydydd?

Nofela' Daniel Owen yn 'glasuron' hefyd. Dwi'n defnyddio'r '' achos dwi heb ddarllan yr un fy hun eto. Dwi'n bwriadu gneud. A darllan Cysgod y Cryman, sydd hefyd yn oce yn ol y son.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: llyfrau y dylai pob cymro/cymraes eu darllen?

Postiogan Cacwn » Mer 18 Meh 2008 1:42 pm

Semtecs, Asasin ac Omega 'di'r drioleg - lot o ladd, lleoliadau anhygol a thwyll. Smart!
One local resident, who didn’t want to be named, said: “It was horrendous. The lads from Porthmadog just went berserk.”
Rhithffurf defnyddiwr
Cacwn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 24
Ymunwyd: Gwe 06 Meh 2008 1:10 pm
Lleoliad: Ble bu rhywun o'r blaen

Re: llyfrau y dylai pob cymro/cymraes eu darllen?

Postiogan osian » Mer 18 Meh 2008 2:03 pm

Cacwn a ddywedodd:Semtecs, Asasin ac Omega 'di'r drioleg - lot o ladd, lleoliadau anhygol a thwyll. Smart!

A ia shwr, dwi di darllan y ddwy gynta', shwr fod y trydydd acw yn rwla fyd.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: llyfrau y dylai pob cymro/cymraes eu darllen?

Postiogan Gowpi » Mer 18 Meh 2008 2:15 pm

Un Nos Ola Leuad, Caradog Pritchard yn glasur.
Cysgod y Cryman ac Yn Ol I Leifior, hefyd yn glasuron ynghyd ag Wythnos yng Nghymru Fydd oll gan Islwyn Ffowc Elis.
Chwalfa, T Rowland Hughes (nes i lefain)
Monica, Saunders Lewis
Traed mewn Cyffion, Kate Roberts
Mae gyda ni nifer o glasuron... wy'n hoff iawn iawn o nofelau Mihangel Morgan fy hun - nifer ohonynt.
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Re: llyfrau y dylai pob cymro/cymraes eu darllen?

Postiogan Hazel » Mer 18 Meh 2008 7:26 pm

Wythnos Yng Nghymru Fydd - Islwyn Ffowc Elis
Atgofion Hen Filwr - Ifan G Morris
Gwaed Gwirion - Emyr Jones
Grym y Lli - Emyr Jones
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: llyfrau y dylai pob cymro/cymraes eu darllen?

Postiogan aderyn melyn » Mer 18 Meh 2008 9:36 pm

Cacwn a ddywedodd:Sut fath o bethau ti'n licio?


i ddweud y gwir, dwi ddim yn un sy'n dilyn genre neu deip arbennig. gei di brawf o hynny os 'drychi di ar rhestr y BBC - mae na dipyn bach o bopeth arni.

dwi'n hoffi'r syniad o glasuron y gymraeg - es i ysgol saesneg, a doedd dim fawr o ddarllen ar y cwrs safon uwch, felly sai'n mor gyfarwydd a'r gweithiau mawr cymraeg ag y hoffwn i fod. (gyda llaw, sut ydw i'n dodi to bach uwchben llythyrennau?)

byddai'n hapus i roi gynnig ar unrhywbeth. wrth rheswm, os mae rhywun yn cymryd yr amser i argymell llyfr, mae'n rhaid fod e wedi gwneud argraff arnynt, ac mae hynny'n arwydd fod e'n llyfr werth ei ddarllen yn fy marn i.
Rhithffurf defnyddiwr
aderyn melyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Maw 17 Meh 2008 10:37 pm
Lleoliad: i fyny yn y goeden banana

Re: llyfrau y dylai pob cymro/cymraes eu darllen?

Postiogan Hazel » Mer 18 Meh 2008 10:44 pm

aderyn melyn a ddywedodd: (gyda llaw, sut ydw i'n dodi to bach uwchben llythyrennau?)


Gwêl yma. http://www.forumwales.com/phpbb2/viewto ... es&start=0
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Nesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai