llyfrau y dylai pob cymro/cymraes eu darllen?

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: llyfrau y dylai pob cymro/cymraes eu darllen?

Postiogan dawncyfarwydd » Llun 23 Meh 2008 3:20 pm

Cyffredin o ran safon o'n i'n feddwl, ddrwg gen i!

Mae'n stori ddi-fai, dim byd sbeshal a chydig bach yn rhy strwythuredig efo'r busnas lladd seithwaith 'na - ond sa hi'n gallu bod yn nofel dda. Dydi nofel ddim yn dibynnu ar stori. Dwi'n cydymdeimlo efo Hazel pan mae hi'n deud bod hi'n anodd ei darllen - ac mae'n debyg mai dyna fy mhwynt i. Dydi'r nofel ddim yn gorwedd yn esmwyth i mi ac mae gwendidau'r arddull yn pwysleisio hynny, ac yn gyffredinol fatha chinese torture; tasa'r nofel yn banad o de, fysa fo ddim wedi setlo ac aeddfedu yn y tebot ac mi fasa'r llefrith wedi suro mymryn. Hm, am ddelwedd.

Wedi deud hynny, mi wnaeth y nofel fy anesmwytho i. Heblaw am y gwallau arddull eitha elfennol, mi allai fod yn bosib mai dyfais fwriadol oedd anesmwythdra llif y stori - ond dwi ddim yn meddwl, rywsut.

Mi alla neud ffilm dop-notsh, serch hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: llyfrau y dylai pob cymro/cymraes eu darllen?

Postiogan sian » Llun 23 Meh 2008 3:29 pm

Macsen a ddywedodd:
*troi fflachlamp ymlaen a'i anelu at Dawncyfarwydd*


Rhyfedd i ti ddweud hynna! Fe wnes i fwynhau Martha, Jac a Sianco yn ofnadwy ond roedd un neu ddau o bethau'n niglo!
1) yr iaith - doedd hi ddim cweit wedi cael yr iaith yn iawn. Roedd hi fel pe bai hi'n tynnu geiriau ac ymadroddion tafodieithol i mewn wysg eu tinau weithiau. Hefyd, os dw i'n cofio'n iawn, roedd y gair "fflachlamp" yn digwydd ar y dudalen gynta neu'r ail, oedd yn anghydnaws â'r iaith, ac fe wnaeth hynny fy mhigo i - fel y "pili pala" benywaidd yn y Gemydd.
2)
Macsen a ddywedodd:... creu cymeriadau credadwy crwn ...
- doedd y Saesnes (Julie?) ddim yn gymeriad credadwy crwn.
3) Doedd y diwedd ddim yn argyhoeddi os dw i'n cofio'n iawn - ac mae rhai blynyddoedd ers i mi ei darllen.

Ffysi yn tŷ ni :wps:
Ond ar y cyfan, roedd hi'n llwyddiant a dw i'n edrych ymlaen yn fawr at y ffilm.

Gol - wnes i sgrifennu hyn cyn gweld neges ddiwetha dawncyfarwydd a heb drafod - od!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: llyfrau y dylai pob cymro/cymraes eu darllen?

Postiogan Macsen » Llun 23 Meh 2008 4:09 pm

Dw i'n cytuno am Julie, roedd ei chymeriad mor fflat a chrempog gydag eliffant yn eistedd arno. Ond hi oedd yr eithriad a dweud y gwir, roedd Martha a Sianco yn enwedig yn gymeriadau da iawn.

Ynglŷn a'r iaith, do'n i heb fyw yng Ngheredigion pan ddarllenais i hi a falle byddai camgymeriadau yn yr iaith, os oes yna rai, yn fwy amlwg i mi erbyn hyn, ond dw i ddim mor pedantig a hynny. O'n i jesd yn cymryd yn ganiataol mai fel yna oedden nhw'n siarad. :D

Mae 'na demtasiwn wrth sgwennu tafodiaith hen bobol wrth gwrs i bentyrru dywediadau ac ymadroddion tafodieithol a ballu i'w wneud o'n fwy amlwg a bosib trio delfrydu ein cyndadau.

Ond er y ddau wall yna dwi i dal o'r farn ei bod hi'n nofel wych.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: llyfrau y dylai pob cymro/cymraes eu darllen?

Postiogan Mihangel Macintosh » Llun 23 Meh 2008 4:55 pm

Wedodd fy nhad i dylsen i ddarllen Mein Kampf a The Communist Manifesto

So nes i ddim.

Ok, dwi wedi darllen detholiadau o waith Marx ac Engles gan cynnwys darne o'r Communist Manifesto a ma nhw'n reit aniddoddorol mewn gwirionedd.

Dwi'n meddwl y dylid trio darllen y beibl o glawr i glawr er mwyn gallu dadlau yn ôl gyda Christnogion.

Kama Sutra - angen cyfieithiad i'r Gwmrâg - Ray, ti'n gêm?

Y Quran - heb ddarllen e o glawr i glawr, ond mae'n llawn o straeon gwallgo fel rhyw lyfr mawr arall.

Dylsen i ddarllen War and Peace rhywbryd hefyd...

Spycatcher - y llyfr nath Thatcher ei wahardd - ceisiwch osgoi hwn fel y pla. Llwyth o gach.

Homage to Catalunia, 1984 a Animal Farm gan Orwell yn sicr yn rhaid eu darllen.

Of Mice and Men gan Steinbeck hefyd yn sicr.

Lady Chaterly's Lover? Diflas

Acid House/Ecstacy/Filth gan Irvine Welsh yn hanfodol ac yn ddôs da o och, gritty reality.

Fahrenheit 451 gan Ray Bradbury yn hanfodol.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: llyfrau y dylai pob cymro/cymraes eu darllen?

Postiogan Hazel » Llun 23 Meh 2008 5:05 pm

Ogwydd, mae gen i cwestiwn am "Martha Jac a Sianco". A oedd hi'n cael ei ysgrifennu yn gyntaf yn Gymraeg neu yn Saesneg? Diolch.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: llyfrau y dylai pob cymro/cymraes eu darllen?

Postiogan Mihangel Macintosh » Llun 23 Meh 2008 5:16 pm

Cymro13 a ddywedodd:The Welsh Extreimist – Ned Thomas


Hefyd...

To Dream of Freedom: The Story of Mac and the Free Wales Army gan Roy Clews

The Celtic Revolution: Study in Anti-imperialism gan Peter Berresford Ellis

Bash the Rich: True Life Confessions of an Anarchist gan Ian Bone
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: llyfrau y dylai pob cymro/cymraes eu darllen?

Postiogan Macsen » Llun 23 Meh 2008 6:01 pm

Llyfrau Cymraeg Mac:

Neges gynta'r edefyn a ddywedodd:felly pe bai rhestr felly o lyfrau cymraeg, pa lyfrau byddai'n haeddu lle arni?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: llyfrau y dylai pob cymro/cymraes eu darllen?

Postiogan Mihangel Macintosh » Llun 23 Meh 2008 6:14 pm

Oce oce. A nofelau nid llyfrau os ti ishe bod yn bedantic :winc:

Er ges i fy forsio i'w ddarllen e'n ysgol - Un Noson Ola Leuad gan Caradog Pritchard yn bendant.

Brithyll / Madarch gan Dewi Prysor

Popeth gan Llwyd Owen

Dirgel Ddyn gan Mihangel Macintosh

Cyw haul a Cyw Dôl gan Twm Miallt

Nawr ewch i rhoi'r llyfre Kate Roberts ar y golcerth blantos.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: llyfrau y dylai pob cymro/cymraes eu darllen?

Postiogan Hazel » Llun 23 Meh 2008 8:25 pm

Beth am "Fydd, Gobaith, Cariad"? Dw i ddim yn ei cydnabod hi. Unwaith roedd llawer o ganmoliaeth amdani. Wedyn yn sydyn, dim byd.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: llyfrau y dylai pob cymro/cymraes eu darllen?

Postiogan Macsen » Llun 23 Meh 2008 9:24 pm

Mihangel Macintosh a ddywedodd:Nawr ewch i rhoi'r llyfre Kate Roberts ar y golcerth blantos.

Noooooooooooooooooooo!

*llusgo Kate Roberts oddi ar y goelcerth*

Beth am "Fydd, Gobaith, Cariad"? Dw i ddim yn ei cydnabod hi. Unwaith roedd llawer o ganmoliaeth amdani. Wedyn yn sydyn, dim byd.

Nofel wych arall. Ychwanegaf hi i fy rhestr.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

NôlNesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai