O gadw at 3 must-read, sy'n gynrychioladol o fawredd ein llên erbyn heddiw a thrwy'r canrifoedd (yn hytrach na jyst llyfra da) dwi'n credu sa'n anodd gwella ar y canlynol:
Un Nos Ola Leuad - Nofel orau'r iaith, does bosib. Sgwennu gafaelgar, cymeriad efo'r mwya trist a'r llofrudd hawsa cydymdeimlo efo fo dwi erioed wedi'i weld, stori syml ond un sydd blow-by-blow yn hitio'r cymeriad yn ei wyneb, ond stori sy'n intricate, blith-draphlith ond yn berffaith wrth iddi wau at ei gilydd. Mae ynddi hefyd ddarlun dirdynnol o gymdeithas ond mae hwnnw'n rhan o'r stori a hydnoed wrth gondemnio crefydd fatha ryw farcsydd mae o'n gweu hynny mewn i hynt y cymeriad. Mae na Freudiaeth reit gry ynddi hi hefyd. Nofel wirioneddol fawr a dirdynnol.
Seren Wen ar Gefndir Gwyn - Dydi hi ddim mor glir be sy'n gneud hon yn nofel fawr. Dwi heb ei stydio hi mor fanwl ag UNOL so dwi ddim yn gwbod pa mor eang ydi ei chysylltiada thematig/llenyddol/gwleidyddol hi - ond dydi ddim otsh, a dyna dwi'n medddwl sy'n bwysig. Ma Robin Llywelyn wedi creu byd ffantasi sy'n hudo a rhyfeddu; ma'n Lord of the Rings (LotR
hanfodol Gymraeg -
Tŷ'r Ddadl ydi Senedd er enghraifft) yn dod i gyfarfod...dwnim, rwbath fel barddoniaeth Emyr Lewis ella? Yn yr ystyr fod na ryw glyfrwch a llonyddwch hyfryd yn yr argyfwng. Prif gymeriad briliant, cymeriada erill sy'n cyfrannu ato fo ac sy'n wych ynddyn nhw'u hunain. Ac wrth gwrs, y clyfrwch geiriol sy'n gwneud i'r byd ma weithio. Dwnim bedio, realm arall o'r meddwl ta be. A dim otsh. Ma'r nofel yn hudolus ac yn gyfangwbl wych, meistrolgar o nofel.
Paradwys - Wiliam Owen Roberts - Mi fyswn i'n dewis un o'r "clasuron", ond sgenaim mynadd darllan ryw stwff am 'ydio'n medru susnag, musus parri?'. A beth bynnag, mae hon yn well na nhw i gyd - WOR ydi'r awdur anghofiedig yng Nghymu heddiw ac mae o'n rhyngwladol ei fyd-olwg a'i arwyddocad. Mae'r
adolygiad yma yn crynhoi be dwi isio'i ddeud: mae hi'n nofel eang ei chynfas, efo stori hiiiiiiwj a chymhleth, hard-going ar brydiau ond byth yn anodd ei darllen...gwaith meistr unwaith eto. Mae hi'n gywilyddus cyn lleied o sylw mae Wil yn gael achos dwi'n credu ei fod o yn well a phwysicach awdur na Mihangel Morgan ac Aled Jones Williams - ac mae hynny'n deud rhywbeth. Darllennwch ei stwff o - mae o'n epig.
[Hyn oddi ar y pwnc, ond yn bersonol dwi methu'n glir a dallt be ydi'r thing sgen bobol am Martha Jac a Sianco. Ella bo fi'n cal y nylanwadu gan y ffaith mod i wedi'i darllan hi ar ol clywad am yr holl heip...ond dwi'n methu ei gweld hi fel nofel damaid gwell na'r cyffredin. Ac mae angen golygu'r iaith a sut mae honno'n cael ei rhoi lawr ar bapur yn ofnadwy. Be sy'n bod arna'i? Pawb yn deud bod hi'n briliant, a dwi'n meddwl bod hi'n shit Goleuwch fi!!]