Hen englyn i Hedd Wyn

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Hen englyn i Hedd Wyn

Postiogan Prysor » Gwe 27 Meh 2008 3:04 pm

Mynd drwy lyfr lloffion fy Anti Gwladys, a fu farw ar ôl tân yn ei chartref, yn 100 oed gwpwl o flynyddoedd yn ôl, a dod ar draws yr englyn isod.

Rhyw G Tudor sgwenodd o, yn 1922. Mae'r llyfr yn llawn rhigymau, lluniau a chyfraniadau gan bobl o Gwm Prysor, Traws a Llan Ffestiniog, felly dwi'n cymeryd mai un o Tudoriaid Nant y Frwydr - fferm cyfagos i Hendre (tŷ ni, le y magwyd Anti Gwladys) - ydi G Tudor.

Hedd Wyn

Erys ei lwch i orwedd - yn erwau
Ewrop anghyfannedd,
Er hynny gesyd rhinwedd
Ei harfau aur ar ei fedd.

G Tudor, 1922
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron