Ar Hydref y 10fed, 2008, fel rhan o wyl Llen y lli, a'i gynhelir yn flynyddol gan Academi, Bydd Cymdeithas y Rhyfeddod yn cyflwyno gosodiad unigriw dan y teitl 'Yr Injan Odli'.
Sut mae esbonio'r Injan unigryw?
Bydd 24 o feirdd amlwg yn creu cwpled ar thema 'Beth yw'r Dychymyg?'
Bydd pob cwpled yn cael ei 'trigro' gan gliced arbennig ar y llawr, a'r bwriad yw y gall unrhyw gwpled wneud synnwyr os yw'n dilyn cwpled arall.
Felly, bydd cerdd newydd yn cael ei greu yn defnyddio cyfuniad random o gwpledi.
Dychmyga arddull 'Cut-up' William S Burroughs, yn cael ei triggro ar hap, gyda'n beirdd arloesol, eu taflu i gylla peiriant golchi, a'c allan o'r cawdel daw'r INJAN ODLI.
Wyt ti'n fardd?
Oes gen ti ddiddordeb mewn cyfrannu?
Cysyllta a ni drwy ebostio rhyfeddaf@rhyfeddod.com
Bydd modd recordio dy gwpled ym Mhabell Academi ar faes yr Eisteddfod eleni.
Ar noson y gosodiad bydd rhaglen lawn o adloniant yn cael ei guradu gan Cymdeithas y Rhyfeddod.
http://www.rhyfeddod.com