Barddas

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Barddas

Postiogan Hazel » Gwe 11 Gor 2008 5:24 pm

Oes 'na unrhywun sydd yn gwybod y pris tanysgrifiad o'r cylchgrawn Barddas? Mae rhaid i mi adnewyddu fy nhanysgrifiad ond dw i ddim yn gwybod y pris neu pan fydd fy nhanysgrifiad yn dod i ben. Dw i wedi ysgrifennu atyn nhw ond does dim ateb eto. Diolch.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Barddas

Postiogan Del » Gwe 11 Gor 2008 7:48 pm

Rwy'n credu taw £22 yw'r tanysgrifiad; dyna sydd ar eu gwefan nhw p'run bynnag, ond falle ei bod hi'n well checio hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
Del
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 89
Ymunwyd: Llun 07 Maw 2005 2:20 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Barddas

Postiogan Hazel » Gwe 11 Gor 2008 8:06 pm

Diolch. Roeddwn i'n ceisio i dod o hyd i'u gwefan ddoe. Doedd hi ddim yn diwrnod da ddoe.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Barddas

Postiogan Prysor » Llun 14 Gor 2008 3:46 pm

Dwi'n danysgrifwr (am mod i'n isio cyfrannu i gynnal y gymdeithas, nid am mod i'n cael llawer o fwyniant allan o'r ysgrifau hynod ddiddorol sydd ynddo :winc: ), ac os dwi'n anghofio talu eto, dwi'n cael llythyrau atgoffa ganddyn nhw efo pob copi, nes fydda i'n cofio gyrru'r siec. Does dim dianc rhag y Gymdeithas Gerdd Dafod - unwaith ti mewn, ti mewn am byth !!! (ciw, mellt a tharannau!) :D
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Barddas

Postiogan Mr Gasyth » Llun 14 Gor 2008 4:36 pm

Prysor a ddywedodd:Dwi'n danysgrifwr (am mod i'n isio cyfrannu i gynnal y gymdeithas, nid am mod i'n cael llawer o fwyniant allan o'r ysgrifau hynod ddiddorol sydd ynddo :winc: ), ac os dwi'n anghofio talu eto, dwi'n cael llythyrau atgoffa ganddyn nhw efo pob copi, nes fydda i'n cofio gyrru'r siec. Does dim dianc rhag y Gymdeithas Gerdd Dafod - unwaith ti mewn, ti mewn am byth !!! (ciw, mellt a tharannau!) :D


Nath fy nghariad i danysgrifio a wedyn anghofio adnewyddu. Gath hi lythyr eitha snotty gan Elwyn rwbeth yn diolch iddi am ei chefnogaeth 'er am gyfnod mor fyr' ac yn gwaredu na fuasai hi wedi dod i adnewyddu ei thanysgrifiad ar faes yr Eisteddfod a'r uned lle roedd hi'n gweithio arni rownd y gornel i un Barddas. Od iawn, scary hyd yn oed!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Barddas

Postiogan Hazel » Llun 14 Gor 2008 4:42 pm

Prysor a ddywedodd:Dwi'n danysgrifwr (am mod i'n isio cyfrannu i gynnal y gymdeithas, nid am mod i'n cael llawer o fwyniant allan o'r ysgrifau hynod ddiddorol sydd ynddo :winc: ), ac os dwi'n anghofio talu eto, dwi'n cael llythyrau atgoffa ganddyn nhw efo pob copi, nes fydda i'n cofio gyrru'r siec. Does dim dianc rhag y Gymdeithas Gerdd Dafod - unwaith ti mewn, ti mewn am byth !!! (ciw, mellt a tharannau!) :D


Ah, mae'n yr un fath â Yr Enfys. O'r gorau. Mae'n wahanol yn UDA. Yma, maen nhw'n dechrau anfon allan rhybuddion adnewyddiad chwe mis ymlaen llaw. Dywedan nhw bod angen mwy amser efo'r cyfrifiadur. :-) Mae'r cyfrifiadur mwy araf na fod dynol. :P
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Barddas

Postiogan dawncyfarwydd » Llun 14 Gor 2008 5:17 pm

Hazel a ddywedodd:Mae'r cyfrifiadur mwy araf na fod dynol. :P
Nid bod dynol ydi Alan Llwyd. Peiriant cynganeddu ydi o.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Barddas

Postiogan Prysor » Llun 14 Gor 2008 5:49 pm

Hazel a ddywedodd:
Prysor a ddywedodd:Dwi'n danysgrifwr (am mod i'n isio cyfrannu i gynnal y gymdeithas, nid am mod i'n cael llawer o fwyniant allan o'r ysgrifau hynod ddiddorol sydd ynddo :winc: ), ac os dwi'n anghofio talu eto, dwi'n cael llythyrau atgoffa ganddyn nhw efo pob copi, nes fydda i'n cofio gyrru'r siec. Does dim dianc rhag y Gymdeithas Gerdd Dafod - unwaith ti mewn, ti mewn am byth !!! (ciw, mellt a tharannau!) :D


Ah, mae'n yr un fath â Yr Enfys. O'r gorau. Mae'n wahanol yn UDA. Yma, maen nhw'n dechrau anfon allan rhybuddion adnewyddiad chwe mis ymlaen llaw. Dywedan nhw bod angen mwy amser efo'r cyfrifiadur. :-) Mae'r cyfrifiadur mwy araf na fod dynol. :P


dyna ydi'r norm yn fan hyn hefyd, ond nid Barddas. Dwi wedi cael fy nal allan hefyd - o'n i'n meddwl os nad oeddat yn cario mlaen efo dy danysgrifiad o gylchgrawn, yna dyna ni, mae nhw'n sdopio ei yrru fo i ti. Ond nid Barddas. Mae nhw'n dal i yrru'r cylchgronnau misol, efo llythyr yn gofyn am dâl adnewyddu efo pob copi!

(mae wedi digwydd i fi ddwywaith! Y tro cynta - tua 10 mlynadd yn ôl - wnes i wrthod talu, achos roeddwn wedi penderfynu peidio adnewyddu, felly pam ddylen nhw ddal i yrru copiau imi?)

pan ddigwyddodd o'r eildro, roeddwn wedi dysgu nad oes dianc o'i gafael... mae'r Gymdeithas Gerdd Dafod yn gweithio mewn ffyrdd rhyfedd... does... dim... dianc.... wyf gaeth i gylchgrawn (nad wyf hyd yn oed yn ei ddarllen!) ..... aaaaaaaaaaaaargh! :ofn: :D
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Barddas

Postiogan Hazel » Llun 14 Gor 2008 6:16 pm

[

Does dim eisiau arna i beidio "Barddas" byth. Mae o un o fy hoff gylchgrawn. Mae o'n achosi i'm ginio bod hwyr. :)
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 33 gwestai

cron