"cyfansoddiada, cyfansoddiada.... prynwch y cyfansoddiada"

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

"cyfansoddiada, cyfansoddiada.... prynwch y cyfansoddiada"

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Maw 19 Awst 2008 11:06 am

chlywish i neb yn gweiddi hyn 'leni... ac o'r herwydd, och, anghofiais ei brynu. (ella bo' hunna wbath i 'neud 'efo'r ffaith bo' fi'm di symud o'r bar dy' gwenar)
eniwe, jyst meddwl bod o'n biti bod 'na 'm gair am hufen llenyddol eleni 'di cael ei grybwyll. wedi cael benthyg copi am awr fach wsos dwytha, a chael cip sydyn, a meddwl bo' cerdd hywel griffiths yn wych - isho amsar i ista i lawr a'i darllan yn iawn. gweld biti bod cyn lleiad o wobrwyo, a chystadlu, yn y cystadleutha' drama (pam?), ac ambell em yn y rhyddiaith... ddim yn cofio enwa' rwan. rhaid ymweld a phalas print.
nath na rywun fuddsoddi, neu ydi pawb wedi optio am dim lol 'leni yn lle... :?
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: "cyfansoddiada, cyfansoddiada.... prynwch y cyfansoddiada"

Postiogan khmer hun » Maw 19 Awst 2008 11:12 am

Y filanel yn neis.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Re: "cyfansoddiada, cyfansoddiada.... prynwch y cyfansoddiada"

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Maw 19 Awst 2008 11:14 am

Dwi'n hapus i brynu Dim Lol. Mae benthyca'r Cyfansoddiadau o'r llyfrgell yn ddigon da i mi.
O.N. mae lefel gwerthiant y Cyfansoddiadau yn rhywbeth na fyddem yn gwrthod fod isho gwybod. Ond mae hi hefyd yn ddifyr mynd i'r llyfrgell leol a gweld faint o weithiau mae'r llyfrgellydd wedi stampio'r llyfr (ffordd arall o fesur pwer y sin darllen Cymraeg).
A faint o weithiau bydd y llyfrgellydd yn e.e. Merthyr Tydful neu Drefynwy yn stampio'r copi? (neu'r llyfrgell agosa i faes y brifwyl eleni?)
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: "cyfansoddiada, cyfansoddiada.... prynwch y cyfansoddiada"

Postiogan SerenSiwenna » Maw 19 Awst 2008 1:40 pm

(ffordd arall o fesur pwer y sin darllen Cymraeg).


:lol: Y sin darllen Cymraeg :lol:

Mae gen i gopi yma yn Lerpwl...gan bo fi'n rhan o sin llenyddu Gymraeg y babell len :D

O ni yn un o'r 5, ia 5 :rolio: , wnaeth mentro am yr Emyr Feddyg tro 'ma (digon hawdd dyfalu pwy ydwi gyda llaw o'r ffug enw) :wps: Wnes i drio am y stori fer hefyd, roedd 'na griw go lew ohonnym ni yn fano, er, dal ddim be fysech chi yn disgwyl i'r genedlaethol. O ni wedi gwiro'r gwaith drosodd a drosodd hefo cysill ayyb ond, ynol y ddau beirniad, roedd fy ngwaith dal yn llawn gwallau :crio:

Mae'n reit dda cael gweld y ffug-enw mewn print ddo, ag o leia pan dwi'n hen ddynes gai ddweud bo fi wedi o leia trio :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: "cyfansoddiada, cyfansoddiada.... prynwch y cyfansoddiada"

Postiogan rufus » Llun 29 Medi 2008 8:39 am

Yn Barn mis yma mae Vaughan Hughes yn trafod y cyfansoddiadau ac yn cyfeirio at rai a ddaethh yn agos at y goron eleni - Dinesydd a Siani Bwt yn arbennig - oes yna unrhywun yn gwybod pwy ydyn nhw? Dwi'n cofio ers talwm byddai'r wasg Gymraeg yn treulio cryn dipyn o le ag amser yn dyfalu pwy ddaeth yn agos ati ym mha gystadleuaeth - a beth am y Gadair a'r cystadleuthau eraill??
"Cymraeg ydio Bruce, ond nid fel 'da ni yn ei adnabod o..."
rufus
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Iau 25 Medi 2008 9:47 am

Re: "cyfansoddiada, cyfansoddiada.... prynwch y cyfansoddiada"

Postiogan dawncyfarwydd » Llun 29 Medi 2008 3:39 pm

rufus a ddywedodd:a beth am y Gadair a'r cystadleuthau eraill??
Eurgig Salisbury a Gwynn ap Gwilym yn ail a thrydydd am y Gadair - mae eu hawdlau nhw yn Barddas heddiw.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: "cyfansoddiada, cyfansoddiada.... prynwch y cyfansoddiada"

Postiogan CORRACH » Maw 30 Medi 2008 11:06 am

dawncyfarwydd a ddywedodd:
rufus a ddywedodd:a beth am y Gadair a'r cystadleuthau eraill??
Eurgig Salisbury a Gwynn ap Gwilym yn ail a thrydydd am y Gadair - mae eu hawdlau nhw yn Barddas heddiw.


Y barddas sy ar ei newydd wedd!
Ma'n nes ati o leia, er ma'n anodd dehongli be di pennawd un peth a'r llal mewn mannau, ond mae'n well nac oedd o.

A chwarae teg i Bobi Jones am ysgolheigio fy ngherdd "Cân y Llamhidydd" (meinws y gweiddi)!! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
CORRACH
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 894
Ymunwyd: Sul 14 Maw 2004 6:53 pm
Lleoliad: Llyn Cwm Llwch


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai