chlywish i neb yn gweiddi hyn 'leni... ac o'r herwydd, och, anghofiais ei brynu. (ella bo' hunna wbath i 'neud 'efo'r ffaith bo' fi'm di symud o'r bar dy' gwenar)
eniwe, jyst meddwl bod o'n biti bod 'na 'm gair am hufen llenyddol eleni 'di cael ei grybwyll. wedi cael benthyg copi am awr fach wsos dwytha, a chael cip sydyn, a meddwl bo' cerdd hywel griffiths yn wych - isho amsar i ista i lawr a'i darllan yn iawn. gweld biti bod cyn lleiad o wobrwyo, a chystadlu, yn y cystadleutha' drama (pam?), ac ambell em yn y rhyddiaith... ddim yn cofio enwa' rwan. rhaid ymweld a phalas print.
nath na rywun fuddsoddi, neu ydi pawb wedi optio am dim lol 'leni yn lle...