Rydw i'n "colli" gair. Oes unrhywun yn gwybod y gair sydd yn disgrifio'r ran o'r nofel sy ddim yn ddeialog - y ran lle'r awdur yn disgrifio'r cefndir neu'r cymeriadau - y ran lle'r awdur yn dweud y hanes yn ei eiriau fe ei hun. Diolch.
Hazel
Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Wyt ti'n golygu'r naratif?
Dw i ddim yn siŵr. Ydy "adroddiad/naratif" yn cynnwys deialog? Edrychais ar Wikipedia ac roedd e'n ymddangos cynnwys deialog efo "narration". Efallai dw i'n ei darllen e'n anghywir. Diolch i di.
Hazel
Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
dwi'n sgwennu nofelau, ond mae fy nghydnabyddiaeth o'r termau cywir am bethau fel hyn bron yn zilch ( ), felly paid a derbyn fy ngair jesd bo fi'n nofelydd - ond dwi bron yn sicr fod Hogyn o Rachub yn gywir, a mai 'naratif' yw'r gair ti'n chwilio amdano.
Golygwyd diwethaf gan Prysor ar Iau 21 Awst 2008 8:16 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Wel mae o i gyd yn naratif tydi, hyd yn oed y deialog bits achos ti dal yn dweud stori. Os na'r bits lle ti'n disgrifio'r cefndir neu'r cymeriadau ti'n siarad amdano, exposition yw'r gair cywir yn Seasneg. Y gair cymraeg yw 'y-bits-rhwng-y-deialog'.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Y traethiad(ol) ydi hynny, dwi'n meddwl. Er, yn bersonol, fyddwn i ddim yn cyfeirio at ddeialog fel rhan o'r naratif, y naratif ydi'r darnau disgrifiadol i mi
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?" "Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"
dwn im, mae fy ngolygydd i'n cyfeirio at y 'naratif' (y stori) a'r 'deialog' (y bits rhwng dyfyniadau) bob tro. Ond fel ddudas i, sgen i'm syniad fy hun. Adewis i ysgol yn 16, heb gofio dim byd am reolau gramadeg na'r termau amdanyn nhw!
Efallai bod 'na wahanol rhwng "narrative" a "narration"? Ond, yn Gymraeg, mae'r gair am yr ail yn yr un. Ydy'r gair "narrative" yn cynnwys deialog ond dydy ddim "narration" yn cynnwys deialog? Dim ond rhyfeddu. Dwn i ddim. Rydych chi i gyd yn gwybod mwy na fi amdani.
Hazel
Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)