Un gair, ogwydd?

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Un gair, ogwydd?

Postiogan Hazel » Mer 20 Awst 2008 3:00 pm

Rydw i'n "colli" gair. Oes unrhywun yn gwybod y gair sydd yn disgrifio'r ran o'r nofel sy ddim yn ddeialog - y ran lle'r awdur yn disgrifio'r cefndir neu'r cymeriadau - y ran lle'r awdur yn dweud y hanes yn ei eiriau fe ei hun. Diolch.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Un gair, ogwydd?

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 20 Awst 2008 3:13 pm

Wyt ti'n golygu'r naratif?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Un gair, ogwydd?

Postiogan Hazel » Mer 20 Awst 2008 3:50 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Wyt ti'n golygu'r naratif?


Dw i ddim yn siŵr. Ydy "adroddiad/naratif" yn cynnwys deialog? Edrychais ar Wikipedia ac roedd e'n ymddangos cynnwys deialog efo "narration". Efallai dw i'n ei darllen e'n anghywir. Diolch i di.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Un gair, ogwydd?

Postiogan Prysor » Iau 21 Awst 2008 7:35 pm

dwi'n sgwennu nofelau, ond mae fy nghydnabyddiaeth o'r termau cywir am bethau fel hyn bron yn zilch ( :wps: ), felly paid a derbyn fy ngair jesd bo fi'n nofelydd - ond dwi bron yn sicr fod Hogyn o Rachub yn gywir, a mai 'naratif' yw'r gair ti'n chwilio amdano.
Golygwyd diwethaf gan Prysor ar Iau 21 Awst 2008 8:16 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Un gair, ogwydd?

Postiogan Hazel » Iau 21 Awst 2008 7:54 pm

Diolch yn fawr. Pleidlais ysgubol am "naratif". Diolch i chi'ch dau. :)
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Un gair, ogwydd?

Postiogan Macsen » Iau 21 Awst 2008 11:02 pm

Wel mae o i gyd yn naratif tydi, hyd yn oed y deialog bits achos ti dal yn dweud stori. Os na'r bits lle ti'n disgrifio'r cefndir neu'r cymeriadau ti'n siarad amdano, exposition yw'r gair cywir yn Seasneg. Y gair cymraeg yw 'y-bits-rhwng-y-deialog'.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Un gair, ogwydd?

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 22 Awst 2008 7:39 am

Y traethiad(ol) ydi hynny, dwi'n meddwl. Er, yn bersonol, fyddwn i ddim yn cyfeirio at ddeialog fel rhan o'r naratif, y naratif ydi'r darnau disgrifiadol i mi :?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Un gair, ogwydd?

Postiogan Prysor » Gwe 22 Awst 2008 10:54 am

dwn im, mae fy ngolygydd i'n cyfeirio at y 'naratif' (y stori) a'r 'deialog' (y bits rhwng dyfyniadau) bob tro. Ond fel ddudas i, sgen i'm syniad fy hun. Adewis i ysgol yn 16, heb gofio dim byd am reolau gramadeg na'r termau amdanyn nhw!
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Un gair, ogwydd?

Postiogan Macsen » Gwe 22 Awst 2008 12:55 pm

Jesd gair ffansi am stori ydi naratif, a mae deialog yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu stori, felly mae'n rhan o'r naratif. :seiclops:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Un gair, ogwydd?

Postiogan Hazel » Gwe 22 Awst 2008 1:16 pm

Efallai bod 'na wahanol rhwng "narrative" a "narration"? Ond, yn Gymraeg, mae'r gair am yr ail yn yr un. Ydy'r gair "narrative" yn cynnwys deialog ond dydy ddim "narration" yn cynnwys deialog? Dim ond rhyfeddu. Dwn i ddim. Rydych chi i gyd yn gwybod mwy na fi amdani.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai

cron