Y blyrb swyddogol:
Mae'r gyfrol hon, y ddiweddaraf yn y gyfres Bro a Bywyd, yn cyflwyno byd a bywyd un o Gymry mwyaf yr ugeinfed ganrif, os nad y Cymro mwyaf oll yn y ganrif honno. Dyma gasgliad o ffotograffau du-a-gwyn gyda thestun perthnasol yn olrhain hanes bywyd a gwaith Gwynfor Evans.
Cafwyd lansiad yn neuadd y Guild, Caerfyrddin neithiwr (Medi 17 '08), yr union neuadd ble cyfrwyd canlyniad hanesyddol 1966 yn datgan Gwynfor Evans fel Aeold Seneddol cyntaf Plaid Cymru. Roedd y neuadd yn llawn dop a chafwyd cyflwyniadau bywiog gan y golygydd, Peter Hughes Griffiths, yn ogystal ag aelodau teulu Gwynfor a Rhiannon.
Mae'n lyfr bendigedig sydd yn dangos Gwynfor - y dyn, tra wahanol i'r Gwynfor y gwleidydd yn llyfr Rhys Evans. Mynnwch gopi!