Ar ol Ffreshars - awgrymau llyfrau Cymraeg hawdd ogd

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ar ol Ffreshars - awgrymau llyfrau Cymraeg hawdd ogd

Postiogan y dulynwr » Gwe 03 Hyd 2008 3:16 pm

Oes unrhywun wedi darllen Ffreshars gan Joanne Davis? Beth wyt ti'n meddwl amdani? O'n i wedi'u gorffen yn ddiweddar. Dysgwr yw fi ac roedd yn wych o'i achos yn hawdd i ddeall, roedd yn symud ymlaen bob amser. I ddweud i gwir roedd o tipyn bach yn fwy anweddus nac oeddwn yn ei ddisgwyl fod. Dyma'r llyfr cyntaf yng Nghymraeg fy mod wedi'u ddarllen. Hoffwn glywed am lyfrau eraill y byddaf yn gallu deall a mwynhau. (Yn fodern gyda llawer o sgiwrsiau).

Gyda llaw rhaid i fi ddweud ar ol ddarllen Ffreshars nad oedd bywyd y coleg yn Iwerddon dim o gwbl fel bywyd y Coleg yn Aberwystwyth, mae'n debyg.

Dwi'n meddwl am ddarllen O Ran gan Mererid Hopwood am fy llyfr nesaf (fy ail lyfr Cymraeg).
y dulynwr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 6
Ymunwyd: Maw 19 Awst 2008 10:33 am
Lleoliad: Dulyn

Re: Ar ol Ffreshars - awgrymau llyfrau Cymraeg hawdd ogd

Postiogan Garreg Lwyd » Mer 08 Hyd 2008 9:14 am

Helo Dulynwr
Croeso i fyd llenyddiaeth Gymraeg, a gobeithio y cei di flas ar ddarllen nofelau.

Mae O Ran yn lle da i fynd nesaf – yr iaith yn eitha syml, y penodau'n weddol fyr ac ychydig o dafodiaith i gyflwyno iaith lafar i ti yma ac acw.

Galli di drio hefyd lyfrau Meleri Wyn James (Gwenynen Bigog, Fyny Lawr, Catrin Jones yn Unig, Catrin Jones a'i chwmni) i gyd yn ddiddorol a'r stori'n symud ymlaen yn dda. Fyny Lawr yn enwedig.

Gad wybod beth rwyt ti'n feddwl o'r nofelau. Mae llawer mwy i ddod, wrth i ti fagu hyder.

Gyda llaw, dw i ddim yn meddwl bod profiad pob myfyriwr (na hyd yn oed y rhan fwyaf o fyfyrwyr) yn Aber ddim byd tebyg i Ffreshars!
Ni leddir yr un genedl nac iaith onid gan ei phobl ei hun.
D. J. Williams
Garreg Lwyd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 42
Ymunwyd: Maw 25 Hyd 2005 10:25 am
Lleoliad: Rhydaman

Re: Ar ol Ffreshars - awgrymau llyfrau Cymraeg hawdd ogd

Postiogan khmer hun » Iau 04 Rhag 2008 3:50 pm

Nid mod i'n gweld bai, ond mi fyddet ti'n dweud hynna Eirwen, a phob un o dy gyfraniadau di i maes-e yn son am lawnsio Ffreshars!

Lot o sex, drygs a roc-a-rôl o gwmpas pan o'n i'n coleg hefyd, ond ddim yn JMJ!

Dyn neu fenyw wyt ti, Dulynwr? Dyma rai llyfrau safonol, hawdd i'w darllen:-

Meinir Pierce Jones - Y Gongol Felys
Semtecs, Asasin, Cur y Nos - Geraint V Jones
Llion Iwan - O Afallon i Shangri-la a'i gyfres Y Casglwr
Bethan Gwanas - Amdani, Gwrach y Gwyllt
Caryl Lewis - Dal Hi!, Martha Jac a Sianco, Y Rhwyd a Jackie Jones (Stori Sydyn)

Tria rai o'r clasuron - Te yn y Grug (Kate Roberts), Chwalfa (T Rowland Hughes), Monica (Saunders Lewis), Cysgod y Cryman (Islwyn Ffowc Elis), ac ambell i nofel o'r 80au fel Pedolau dros y Crud/Os Marw Hon gan Aled Islwyn a nofelau Eirug Wyn - lle mae'r iaith wedi'i gyfoesi llai, yn llai llafar, yn fwy eglur i ddysgwr efallai.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Re: Ar ol Ffreshars - awgrymau llyfrau Cymraeg hawdd ogd

Postiogan eirwen » Gwe 05 Rhag 2008 4:49 pm

Ie rhyw ymgais at hiwmor tafod yn y boch oedd gen i fan na Khmer Un. Sori wnes di ddim sylweddoli hynny... :lol:
eirwen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Sad 26 Gor 2008 3:43 pm


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron