Syniad, falla eith hi'n flop, pwy a wyr? Ond, beth am sgwennu stori fer, na'i ddechra efo brawddeg / paragraff a chroeso i bwy bynnag ychwanegu wedyn. Mi fydd hi'n ddiddorol gweld strwythr y stori'n newid a'r cymeriadau'n dod yn fyw. Oni'n meddwl 'sa stori fer yn well i gychwyn. Pwy a wyr, falla gawn ni nofel rywbryd? Cyhoeddiad?!
Ymddiheuriadau os oes edefyn tebyg / cymlethdod acen / gwallau.
Ok, dyma ni.......
Doedd Nesta methu dioddef white noise. Yr unig declyn i'w h'enw oedd oergell Beko hen ffasiwn, a hwnnw yn y shed tu allan. Doedd hi'm yn cadw llawer yn yr oergell, llefrith rhan amlaf. Haul neu law, cerddai Nesta i'r shed yn gwisgo headphones diwydiannol i warchod ei chlustaiu rhag yr hym anioddefol. Roedd pobl y pentref yn meddwl ei bod hi'n wallgo. Roedd Nesta'n iawn. Dim mwy na dynes syml preifat gyda phobia o'r swn erchyll, hunllefol..... distaw.
...nesa?