Gem fach y stori fer 1.

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gem fach y stori fer 1.

Postiogan Ar Mada » Llun 13 Hyd 2008 4:59 pm

:syniad: Syniad, falla eith hi'n flop, pwy a wyr? Ond, beth am sgwennu stori fer, na'i ddechra efo brawddeg / paragraff a chroeso i bwy bynnag ychwanegu wedyn. Mi fydd hi'n ddiddorol gweld strwythr y stori'n newid a'r cymeriadau'n dod yn fyw. Oni'n meddwl 'sa stori fer yn well i gychwyn. Pwy a wyr, falla gawn ni nofel rywbryd? Cyhoeddiad?! 8)

Ymddiheuriadau os oes edefyn tebyg / cymlethdod acen / gwallau.

Ok, dyma ni.......

Doedd Nesta methu dioddef white noise. Yr unig declyn i'w h'enw oedd oergell Beko hen ffasiwn, a hwnnw yn y shed tu allan. Doedd hi'm yn cadw llawer yn yr oergell, llefrith rhan amlaf. Haul neu law, cerddai Nesta i'r shed yn gwisgo headphones diwydiannol i warchod ei chlustaiu rhag yr hym anioddefol. Roedd pobl y pentref yn meddwl ei bod hi'n wallgo. Roedd Nesta'n iawn. Dim mwy na dynes syml preifat gyda phobia o'r swn erchyll, hunllefol..... distaw.

...nesa?
Cimwch?
Rhithffurf defnyddiwr
Ar Mada
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 90
Ymunwyd: Maw 22 Meh 2004 10:18 pm
Lleoliad: Mewn weiran

Re: Gem fach y stori fer 1.

Postiogan Mwnci Banana Brown » Llun 13 Hyd 2008 8:58 pm

...Roedd hi'n ddydd Sadwrn braf yn Gwm Sgwt, tua 1.27pm, a Nesta tu fas yn gorwedd o dan 'i hymbarel yn yr heulwen. Sylwodd Nesta fod yn gwynt yn codi, ond cyn iddi alli gweud "antidisestablishmentarianism", roedd yr ymbarel wedi hedfan dros y ffens. 'Y ffens', meddyliodd Nesta. 'Y blydi ffens! Blydi Denzil!' Roedd y swn yn ddigon i Nesta, ond nawr fod Denzil wedi symud drw nesa, gallai pethe ddim fod yn wath iddi.

........
Rhithffurf defnyddiwr
Mwnci Banana Brown
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1700
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 4:45 pm

Re: Gem fach y stori fer 1.

Postiogan Ar Mada » Llun 20 Hyd 2008 2:32 pm

....Coediwr oedd Denzil. Coediwr mawr gwyllt gyda gwallt coch fel wiwer, a barf mawr coch fel ryw wrthryfelwr morwrol chwedlonol o Sgandinafia. Os nad oedd Denzil yn ei wiath, mi roedd yn torri coed yn barod at y gaeaf yng ngardd ei dy newydd. Ond... cyn iddo symyd i'r ty newydd, buodd Denzil yn byw yn Nghoedwig Trystan am flynyddoedd, gyda dim ond tarpolin uwch ei ben, gwely gwellt a chydig declynau syml i goginio. Roedd plant y pentref ofn myned i'r goedwig i chwarae o'i herwydd. 'Cochyn y coed' oedd pawb yng nghwm Sgwt yn ei alw. Doedd Denzil 'Cochyn y coed' Thistlethwaite heb arfer byw mewn ty cyffredin, a mi roedd yn cael trafferth ymdopi a phedair wal, gwell ganddo fod yn yr awyr agored.
Roedd Denzil wrthi'n syllu ar y llwyth o goed yn ei ardd o'r gegin gefn, pan gwelodd ymbarel pinc Nesta yn landio arnynt.
"Ymbarel...." meddodd wrth ei hun. " mmmmm......Pinc..."
Cimwch?
Rhithffurf defnyddiwr
Ar Mada
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 90
Ymunwyd: Maw 22 Meh 2004 10:18 pm
Lleoliad: Mewn weiran

Re: Gem fach y stori fer 1.

Postiogan ceribethlem » Llun 20 Hyd 2008 4:53 pm

... "Well i mi lenwi'r pwll yn llawn o Magharita er mwyn mantieisio ar yr ymbarel pinc hyfryd yma." Dwedodd i'w hun. "FFyc off." Aebodd Denzil, gan dorri'r ymbarel ar draws ei ben glin. Roedd Denzil druan yn dioddef o gyflwr personoliaethau lluosog....
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gem fach y stori fer 1.

Postiogan Ar Mada » Mer 29 Medi 2010 6:37 pm

Sefyllodd Denzil yn llonydd, edrychodd i'r nef a gweiddi, "Paaaaaam???!!!". Dechreuodd grio. Disgynodd ar ei liniau a rhoi ei ben yn y gwair, yna..... dechreuodd gnoi y gwair. "Mmmmmm...", meddai, "........cloroffyl...". Yn sydyn, gwelodd Denzil pen Nesta dros y ffens,

"Esgosodwch fi..... yyy.... Denzil ia? Creso i Gwm Sgwt, braaaaaf yw cael cymdogion fel,,,, ....... ww... yyyy...... beth ddigwyddodd i fy ymbarel?"

"Newch chi byth goelio!" meddai Denzil gan sychu dagrau o'i lygaid..... "Ro'n i'n torri nionod yn y gegin gefn.... wedyn gwelais yr ymbarel yn hedfan dros y ffens, rhedais allan nerth fy nhraed i'w achub... ond gafodd y ci afael arno gynta.... a'i falu efo'i ddanned miniog ffyrnig, fel hyn...", Denzil yn dynwared y ci a'r ymbarel yn ei geg.

"Ci?" gofynodd Nesta, "Pa gi?"
Cimwch?
Rhithffurf defnyddiwr
Ar Mada
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 90
Ymunwyd: Maw 22 Meh 2004 10:18 pm
Lleoliad: Mewn weiran


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron