Dynion Dieflig

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dynion Dieflig

Postiogan Darth Sgonsan » Llun 20 Hyd 2008 11:52 am

gan bod hi mor ded yn y seiat llen, dydi hi ond yn iawn tynnu eich sylw at lyfr bach hynod ddarllenadwy sy'n ein hatgoffa am rai o fwrdwrs mwyaf brwnt Cymru

perffaith ar gyfar hosan Dolig rywun sy ddim fel arfar yn darllan Cymraeg, h.y. ma'r sdeil sgwennu yn uniongyrchol heb y cach or-flodeuog arferol
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Re: Dynion Dieflig

Postiogan SerenSiwenna » Llun 20 Hyd 2008 4:13 pm

Darth Sgonsan a ddywedodd:gan bod hi mor ded yn y seiat llen, dydi hi ond yn iawn tynnu eich sylw at lyfr bach hynod ddarllenadwy sy'n ein hatgoffa am rai o fwrdwrs mwyaf brwnt Cymru

perffaith ar gyfar hosan Dolig rywun sy ddim fel arfar yn darllan Cymraeg, h.y. ma'r sdeil sgwennu yn uniongyrchol heb y cach or-flodeuog arferol


:lol: :lol:

Felly Dynion dieflig yw enw'r llyfr? Pwy yw'r cyhoeddwr? Swnio'n dda....awdyr newydd?
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Dynion Dieflig

Postiogan Darth Sgonsan » Maw 21 Hyd 2008 9:30 am

SerenSiwenna a ddywedodd:Felly Dynion dieflig yw enw'r llyfr? Pwy yw'r cyhoeddwr? Swnio'n dda....awdyr newydd?


cyhoeddiad Y Lolfa, Dyfed Edwards ydi'r awdur - riportar ydio wrth ei waith, a mae hynny'n dangos yn ei ffordd gynnil ddi-lol o sgwennu. mae ei ragymadrodd yn ddifyr - trafod sut mae gwerthiant papurau newydd yn cynyddu pan mae mwrdrwr ar y prowl. death sells baby!

mae yna ddarnau i oeri'r gwaed, ac un ffaith sy'n dal i ryfeddu ydi bod Sarjant Llanfairpwll wedi arestio Mathew Hardman ddeufis cyn iddo ladd Mabel ag yfed ei gwaed.
Gath Hardman ei aresdio gan y Sarjant am ddal Jyrmanas lawr a mynnu ei bod hi'n Fampir ac yn brathu gwddw Hardman - nath yr heddlu ddim cysylltu'r ymosodiad yma efo marwolaeth Mabel nes i aelod o'r cyhoedd ffonio fewn yn dilyn Crimewatch i atgoffa'r plod fod nhw wedi aresdio nytar lleol oedd isho bod yn Fampir! :ofn:

so tro nesa' ti'n gweld copar yn deud na fedra nhw neud eu gwaith heb gydweithrediad y cyhoedd, you knows it ynde
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Re: Dynion Dieflig

Postiogan Manon » Maw 21 Hyd 2008 12:46 pm

Nesh i ddarllen llyfr Dihirod Dyfed yn reit ddiweddar, ma' hwn yn swnio'n reit debyg. Edrach 'mlaen i'w ddarllen.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Dynion Dieflig

Postiogan Prysor » Gwe 24 Hyd 2008 3:37 pm

Llofruddiwyd fy hen hen hen daid gan fy hen hen hen ewyrth (ei frawd), yng Nghwm Prysor yn yr 19ed ganrif. Cafodd garchar efo hard labour yn Llundan, a bu farw ar ôl blwyddyn.

Llofruddiwyd fy hen hen ewyrth, a'i ferch, gan gipar yn Llangollen, tra'r oeddan nhw allan yn potsio cwningod.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Dynion Dieflig

Postiogan Chickenfoot » Sad 25 Hyd 2008 12:41 am

A oes lot o serial killers yn hanes Cymru? Dw i'm yn siwr faing o bobl wnath Peter Moore eu lladd, ond heblaw am hwnna, dw i'm yn gallu meddwl am neb.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron