Y problem gyda Harri Potter yw hyd a newyddwch y llyfr. Fel yr awgrymwyd yn barod, os yr oeddech wedi ei ddarllen yn y Saesneg , go brin y buasai darllen llyfr maith eto yn y Gymraeg yn apelio. Efallai, pryd y bydd cyfres Harri Potter yn stopio bod yn ' cyfoes' , ymhen deng mlynedd arall, y bydd pobl fwy tebygol o'i ddarllen. Mae Harri Potter yn amlwg yn Brydeiniwr hefyd, gyda cyd-destun Prydeinig. Mae Tintin yn ryngwladol, wedi ei gyhoeddi ers talwm , ac mae llyfr cartwn yn lyfr hawdd i'w pigo i fyny a'i ddarllen eilwaith, hyd yn oed mewn iaith wahanol.
O ran trosi, yn lle cynhyrchu ffilmiau diflas, gwledig , hen ffasiwn (e.e.Hedd Wyn, Solomon a Geinor , Martha , Jac a Sianco ) , pam na wnawn ni roi'r gorau i'r syniad fod gennym actorion da a diwydiant ffilmiau, a dybio ffilmiau da /poblogaidd. Buaswn wrth fy modd gweld 'The Terminator' yn palu ei ystradebau yn y Gymraeg . Pam ddim ? Mae gwledydd mor fawr a'r Ffrainc a'r Almaen yn gwneud. Yr ydym wedi mynd i goelio ein propaganda ein hunain ynglyn a'n diwylliant .