oes rhywun 'di darllen y cyfieithiadau newydd 'ma o tintin a ddaeth mas ym mis tachwedd?
http://www.tintinologist.org/articles/welsh-book-launch.html
ydyn nhw'n dda o gwbwl?
Cymedrolwr: Llewelyn Richards
Gall Dalen gadarnhau y bydd dwy gyfrol newydd o anturiaethau Tintin yn ymddangos yn ystod 2009. Mae'r addaswr Dafydd Jones (llun, isod) eisoes wedi gorffen trosi Yr Ynys Ddu ac Anialwch yr Aur Du, ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i'w paratoi ar gyfer cyhoeddi. Mae'n debygol y bydd stori Yr Ynys Ddu yn ymddangos erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac Anialwch yr Aur Du i ddilyn yn yr hydref.
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Tra'n croesawu trosi rhagor o lyfrau Tintin i'r Gymraeg, dwi'n bersonol wedi siomi bod Dalen wedi newid rhai o enwau'r prif gymeriadau. Dwi ddim yn gweld rheswm da dros wneud hyn heblaw am i roi stamp ei hun ar y llyfrau.
Dwi'n teimlo hefyd bod na rhyw deimlad mewn cyfweliadau yn y wasg bod y trosiadau newydd yn well na'r 5 wnaeth Gwasg y Dref Wen. Mae'r rhain yn drosiadau ardderchog ac wedi fy ysbrydoli i i ddarllen llyfrau Tintin mewn 3 iaith arall - mae'r fersiwn Gymraeg llawn cystal bob tro. A phan fo'r hen lyfrau dal mewn circulation, ac yn denu ffans (fy mrawd 8 oed yn gynwysiedig), roedd yn gamgymeriad eu newid nhw.
Mewn difri, pwy sy'n newid enwau cymeriadau hanner ffordd drwy gyfres?! Dwl.
Fydda i'n dal i brynu'r llyfrau newydd, ond fel gwir ffan y llyfrau mae wedi gadael blas braidd yn gas ar be ddyla fod wedi bod yn felys.
</sadbastard tintin ffanboi rant>
mae enwi'r ddau dditecdif yn Williams-Parry a Parry-Williams yn wych
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai