Tudalen 1 o 2

Perygl Jones a'r JJ4

PostioPostiwyd: Gwe 09 Ion 2009 1:17 am
gan Duw
Oes rhywun wedi darllen hwn? Dwi'n cofio ei ddarllen wrth ddechre'n yr ysgol fawr. Ai gan T.Llew Jones?? Mae fy mhlant yn dod i'r oedran lle dwi'n meddwl y byddent yn ei fwynhau, ond dwi methu a ffeindio'r llyfr unrhyw le. A oes rhywun yn gallu fy helpu?

Re: Perygl Jones a'r JJ4

PostioPostiwyd: Sad 10 Ion 2009 11:27 am
gan Prysor
Rioed wedi clywed amdano, i fod yn onest.

Ond tria fan hyn.

Os nad ydi o yno, mi alli di adael neges yn dweud dy fod yn chwilio, ac efo lwc daw rhywun yn ôl atat. (Safle bach da)

Re: Perygl Jones a'r JJ4

PostioPostiwyd: Sad 10 Ion 2009 12:11 pm
gan Duw
Diolch - wedi trio heb lwc 'to. Daliaf ati

Re: Perygl Jones a'r JJ4

PostioPostiwyd: Sad 10 Ion 2009 1:28 pm
gan Prysor
sian a ddywedodd:Wel, dyna syniad da - newydd ddechrau mae'r wefan? Handi iawn. Gobeithio bydd hi'n llwyddiant. Ydyn nhw wedi bod yn hysbysebu? Heb weld dim o'r blaen.


Mae hi'n mynd ers rhyw flwyddyn o leia, sdi. Dwi wedi ei defnyddio, ac mae'n hwylus iawn. Yr hen Facyn Taer, y Prifardd hynaws, sy'n ei rhedeg.

(Dwi'm yn meddwl mai beirdd yw'r rhai gorau am drefnu petha diflas fel marchnata, chwaith!) :winc:

Re: Perygl Jones a'r JJ4

PostioPostiwyd: Sad 10 Ion 2009 2:18 pm
gan Josgin
Dwi'n cofio'r gyfres- son am griw o Gymry 'n ymwaldio'r Almaenwyr yn ystod yr ail ryfel byd ! . Mae rhyw gof gennyf mai cyfres mewn cylchgrawn oedd o , ac a gafodd ei gyhoeddi fel llyfr wedyn. A Selyf Davies oedd yr awdur ? . Buasai'r syniad o Gymry'n ' ymladd ' a 'lladd ' yn rhywbeth gwleidyddol anghywir bellach , ond mae rhyfeloedd wedi creu straeon antur gwych. Yr oedd y cylchgrawn ' Hebog' gyda rhyw greadur o'r enw 'Sarjant Bebb' hefyd.
Gai gynnig hunangofiant John Elwyn 'Pum ? cynnig i Gymro' fel un o'r llyfrau mwyaf difyr am ryfel a ysgrifennwyd yn y Gymraeg. Mi wnaeth y dyn yma
STIDO jyrmans wrth eu miloedd - a llwyddodd ein sianel S4C i'w throi i mewn i stori ramant ! .

Re: Perygl Jones a'r JJ4

PostioPostiwyd: Sad 10 Ion 2009 4:54 pm
gan Josgin
Neu Selyf Roberts ? .

Re: Perygl Jones a'r JJ4

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2009 7:47 pm
gan Duw
Yr unig peth dwi'n cofio, roedd yn lyfr coch/brownllyd gyda sawl stori ynddo, felly eitha posib cafodd rhai o'r storiau eu cyhoeddu fel cyfres yn y lle cyntaf. Dwi wedi Gwglo Selyf Roberts a Selyf Davies - a chael sawl link diddorol i Mr. Roberts. Yn anffodus nid oes son am Perygl Jones a'r JJ4. Diolch am eich mewnbwn pawb.

Un o'r lincs da yw: http://www.archivesnetworkwales.info/cgi-bin/anw/search2?coll_id=961&inst_id=1&term=Authors,%20Welsh%20language%20|%20Archives%20|%2020th%20century, ond yn anffodus nid oes son am y llyfr. Roedd Mr. Roberts wedi'i garcharu yn yr Eidal a'r Almaen yn ystod yr ail rhyfel byd, felly dwi'n teimlo bod y llwybr yn poethi.

Re: Perygl Jones a'r JJ4

PostioPostiwyd: Sul 01 Maw 2009 9:34 am
gan Duw
I'r rheini sydd a diddordeb: Dennis Lloyd oedd yr awdur yn ol Amazon. Dwi wedi llwyddo gael copi (ar archeb) o fanna - yr un ola. Yr Urdd a wnaeth ei gyhoeddi nol ym 1970.

ISBN-10: 0950053538
ISBN-13: 978-0950053530

Dyfal donc...

Re: Perygl Jones a'r JJ4

PostioPostiwyd: Sul 01 Maw 2009 1:21 pm
gan Josgin
Reit . Dwi'n cofio rhyw gyfres arall yn 'Cymru'r plant' tua'r un cyfnod : ' Y cawr crwbanod ' (Ffuglen wyddonol , nid cyfres natur !)
Ai Dennis Lloyd oedd awdur hyn hefyd. Mi oedd na bentwr adref gennyf ar un pryd.

Re: Perygl Jones a'r JJ4

PostioPostiwyd: Sul 01 Maw 2009 4:30 pm
gan Duw
Dim syniad, methu a dod o hyd at unrhyw beth amdano o dan Gwgl