Tudalen 2 o 2

Re: Perygl Jones a'r JJ4

PostioPostiwyd: Sul 01 Maw 2009 4:30 pm
gan Duw
Dim syniad, methu a dod o hyd at unrhyw beth amdano o dan Gwgl

Re: Perygl Jones a'r JJ4

PostioPostiwyd: Gwe 06 Maw 2009 2:01 pm
gan Duw
Wedi cyrraedd o'r diwedd! Mae'n popeth dwi'n cofio. Aaaaaaaaaa.

Re: Perygl Jones a'r JJ4

PostioPostiwyd: Gwe 06 Maw 2009 4:43 pm
gan Josgin
Dal i stido'r Jyrmans ?

Re: Perygl Jones a'r JJ4

PostioPostiwyd: Sul 14 Tach 2010 8:18 pm
gan Dras
Perygl Jones a'r JJ4! Hoff lyfr fy mhlentyndod, gwell na J. Selwyn Lloyd, hyd yn oed :) . Mae'n siwr i fi ei ddarllen hanner dwsin tro o leia', ond fe gollais fy nghopi wrth symud o un ty i'r llall, wedi gofalu amdano'n ofalus am flynyddoedd maith. Ac wele! Mae ''na gopi ar Amazon o hyd - bant â fi!

Re: Perygl Jones a'r JJ4

PostioPostiwyd: Gwe 11 Chw 2011 11:47 am
gan Dafad∙Ddall
Rwy'n cofio Mrs Evans yn awgrymu hwn i fi yn mlwyddyn 5. Roeddwn i'n eitha' amharod i ddarllen pethau (storïau yn fwy na dim) ar y pryd, ond mi fwynheais i'r llyfr yma'n fawr iawn. Nid gor-ddweud fuasai diolch i Dennis Lloyd (a Mrs Evans) am wneud i fi weld llyfrau mewn golau newydd! Stori wych.