Hen Nofelau 1960au - 1980au

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Hen Nofelau 1960au - 1980au

Postiogan WoganJones » Gwe 09 Ion 2009 5:56 pm

Mae gen i focsys a bocsys o hen nofelau a llyfrau Cymraeg eraill y 1960au-1980au a rhai hyn a rhai mwy ddiweddara. Hoffwn i ddim twli nhw yn y bin. Oes gan rhywun syniad am beth i wneud 'da nhw? Hoffech chi dderbyn nhw? Mae dros 200 ohonynt ond maen nhw i gyd yn hen ffasiwn ac o ddim diddordeb i bobl ifanc y ddyddiau ma.
Rhowch wybod os rydych chi eisiau nhw!
i wneud heb wneud - dyna wu wei bois bach!
WoganJones
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 15
Ymunwyd: Maw 28 Hyd 2008 9:54 pm

Re: Hen Nofelau 1960au - 1980au

Postiogan Creyr y Nos » Llun 12 Ion 2009 12:41 pm

Shwmai Wogan,
Elli di roi syniad o pa fath o bethau sy 'da ti? Hwyrach se ti'n eu rhestri fan hyn neu yn y seiat prynu a gwerthu byddet ti'n cael gwared ohonyn nhw! Dwi wrth fy modd mewn siopau llyfrau ail law, felly hwyrach se diddordeb da fi mewn rhai ohonyn nhw! Ma' siopau llyfrau ail law neu siopau elusen wastad yn barod i dderbyn llyfre Cymreig yn fy mhrofiad i. Dibynnu lle ti'n byw am wn i - ma siop lyfrau Oxfam yn Aber yn dda.
'Don't piss down my back and tell me it's rainin' - The Outlaw Josey Wales

Dewrion yw adar y nos
Rhithffurf defnyddiwr
Creyr y Nos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 395
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 8:30 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Hen Nofelau 1960au - 1980au

Postiogan sian » Llun 12 Ion 2009 12:51 pm

Ydi, mae siop Oxfam Aberystwyth yn lle ardderchog i gael llyfrau ail-law Cymraeg eitha newydd.

Neu welaist prysor yn sôn am hwn mewn edefyn arall?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Hen Nofelau 1960au - 1980au

Postiogan Creyr y Nos » Llun 12 Ion 2009 3:19 pm

Naddo chan, diolch yn fawr Sian, diddorol iawn!
'Don't piss down my back and tell me it's rainin' - The Outlaw Josey Wales

Dewrion yw adar y nos
Rhithffurf defnyddiwr
Creyr y Nos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 395
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 8:30 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Hen Nofelau 1960au - 1980au

Postiogan WoganJones » Llun 16 Chw 2009 2:28 pm

Diolch i chi i gyd am eich ymatebion. Daeth dyn da i lawr o'r Gogledd ar fore oer a'u casglu nhw i gyd a'u hachub nhw rhag y sgip.

Diolch i ti!
i wneud heb wneud - dyna wu wei bois bach!
WoganJones
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 15
Ymunwyd: Maw 28 Hyd 2008 9:54 pm

Re: Hen Nofelau 1960au - 1980au

Postiogan Mali » Llun 16 Chw 2009 4:44 pm

sian a ddywedodd:
Neu welaist prysor yn sôn am hwn mewn edefyn arall?


Ah ....jyst i mi fethu hwn .Safle ardderchog ....... :D
Diolch i ti am y linc Sian!
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Hen Nofelau 1960au - 1980au

Postiogan Prysor » Llun 16 Chw 2009 7:55 pm

WoganJones a ddywedodd:Diolch i chi i gyd am eich ymatebion. Daeth dyn da i lawr o'r Gogledd ar fore oer a'u casglu nhw i gyd a'u hachub nhw rhag y sgip.


Ac mae'n ddiolchgar iawn i'r gŵr da a chydwybodol o'r Deheubarth. :D
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Hen Nofelau 1960au - 1980au

Postiogan 7ennyn » Llun 16 Chw 2009 10:51 pm

Dwi'n gweithio mewn canolfan ailgylchu a rhan o fy ngwaith ydi cysegru hen lyfrau i'r byd nesaf. Mae yna lot fawr o lyfrau Cymraeg yn dod trwy ein drysau yn wythnosol - y rhan fwyaf yn hen stoc llyfrgelloedd. Mae nhw ychydig yn garpiog ond yn gyfan.

Ar yr egwyddor bod ail-ddefnyddio pethau yn lot gwell na'u hailgylchu, dwi'n fodlon cadw fy ll'gada yn agored am unrhyw deitl i'w hachub rhag eu tynged Andrexaidd. Rhowch eich 'wish-list' yma ac mi gaf weld be fedrai wneud :winc: .
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 28 gwestai

cron