Tudalen 1 o 1

Barddoniaeth

PostioPostiwyd: Maw 13 Ion 2009 4:25 pm
gan Muralitharan
Byddai'n ddifyr gwybod a brynodd rywun gyfrol o farddoniaeth dros y Nadolig - neu'n wir dros y misoedd diwethaf. Beth am gyfrolau Eurig Salisbury a Myrddin ap Dafydd ...?

Re: Barddoniaeth

PostioPostiwyd: Maw 13 Ion 2009 4:34 pm
gan Ray Diota
Delwedd

Re: Barddoniaeth

PostioPostiwyd: Maw 13 Ion 2009 4:38 pm
gan sian
Faint o ymateb ti'n ddisgwyl mewn naw munud? :rolio:

Re: Barddoniaeth

PostioPostiwyd: Maw 13 Ion 2009 4:44 pm
gan Ray Diota
sian a ddywedodd:Faint o ymateb ti'n ddisgwyl mewn naw munud? :rolio:


joc sian fach... cyfieithu rhwbeth diflas heddi, gwed? barddonieth falle... :winc:

Re: Barddoniaeth

PostioPostiwyd: Maw 13 Ion 2009 5:28 pm
gan Mr Gasyth
Brynes i gyfrol Eurig yn y Steddfod. Er dwi'm yn un mawr am ddarllen barddoniaeth nes i ei mwynhau yn fawr, yn arbennig y cerddi am Dai Jones a Derek Llwyd Morgan:

"Ti'r ego dros y trigain
Y barwn bronze o Gefnbrynbrain"

Gwych

Re: Barddoniaeth

PostioPostiwyd: Maw 13 Ion 2009 5:59 pm
gan sian
Ray Diota a ddywedodd:
sian a ddywedodd:Faint o ymateb ti'n ddisgwyl mewn naw munud? :rolio:


joc sian fach... cyfieithu rhwbeth diflas heddi, gwed? barddonieth falle... :winc:


Tyse 'na neb wedi gweud dim am dair wythnos FALLE se hi wedi codi gwên. Mae amseru yn hollbwysig mewn comedi.
:winc:


Beth bynnag, ges i "Rhyw deid yn dod miwn" Iwan Llwyd ac Aled Rhys Hughes yn bresant. Hyfryd!

Re: Barddoniaeth

PostioPostiwyd: Mer 14 Ion 2009 10:23 am
gan Prysor
Dwi am brynu cyfrol Myrddin ap Dafydd, Eurig Salisbury a Iwan Llwyd efo'r tocynnau llyfrau gefais dros y Nadolig.

Mae cerddi Myrddin wastad yn wefreiddiol, a dwi'n cael blas ar rai Eurig bob tro dwi'n dod ar eu traws mewn cyhoeddiadau. Ac mae cerddi Iwan yn codi ias yn aml hefyd.

(dor dy dumbleweed yn dy din, Mr Diota! :P :D )

Re: Barddoniaeth

PostioPostiwyd: Iau 15 Ion 2009 1:07 am
gan Kez
Wi’n mynd i gytuno â Ray fan ‘yn – nag yw barddoniath at ddant pawb!

Ma’ beirdd yn gallu bod yn snobish ‘ed. Wi’n cofio ifi ysgrifennu’r pwt ‘ma o gerdd yn yr ysgol un tro ond jiawch – am gerydd geso i am bod mor ewn ac anfarddol!

Mari fach a gerais
Ei hwyneb hi mor llon
Ei thits fel sach o datws
A’i bola hi mor drom


Own i’n meddwl bo fi’n cal eithaf rhythm fan ‘na ond dyma Mrs Davies, ein hathrawes Gymraeg, yn gwed wrthdo i wedyn na alla i weud bod bola yn drom am taw gwrywaidd yw bola a trwm yw’r ansoddair y dylswn i iwso idd’i ddisgrifio fe – ac ifi beido â bod mor stiwpid.

Nath hi droi fi off barddoniath am byth odd’ ar ‘ni - ac a gwed y gwir, ifi dal heb ddod drosto’r peth hyd heddi.