T. Llew Jones

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

T. Llew Jones

Postiogan Hazel » Sul 01 Chw 2009 9:01 pm

Beth mae'r llyfr un gorau gan T. Llew Jones? Y llyfr sy'n gwerthu orau? Diolch i chi am eich marn chi. Hazel
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: T. Llew Jones

Postiogan dawncyfarwydd » Llun 02 Chw 2009 5:43 pm

Ysbryd Plas Nant Esgob oedd fy ffefryn i. Sgeri, was bach.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: T. Llew Jones

Postiogan Hazel » Llun 02 Chw 2009 5:55 pm

Diolch yn fawr. Hazel
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: T. Llew Jones

Postiogan sian » Llun 02 Chw 2009 6:38 pm

Doeddwn i ddim yn licio nofelau T Llew Jones pan o'n i'n fach - rhyw fath o wrthryfela dw i'n meddwl.

Wnes i ddarllen Trysor Plasywernen yn gymharol ddiweddar ac roedd gormod o ofn arna i gerdded ar draws y landin i'r tŷ bach yn y nos wedyn. :wps:
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: T. Llew Jones

Postiogan Prysor » Llun 02 Chw 2009 7:07 pm

Barti Ddu gydiodd fy nychymyg. Mae darnau ohoni'n dal yn fyw yn y cof heddiw.

Dwi'm yn cofio run o'r lleill - heblaw'r cloriau.

Ond dwi yn cofio T Llew yn dod i'r ysgol i sgwrsio efo ni, efo rhyw foi o'r enw JR Jones. Cofio lot o chwerthin, a'r stori amdano'n ista ar beipan rheiddiadur (radiator) haearn pan oedd o'n yr ysgol ei hun, a mellten yn hitio'r system beipiau a;i daflu fo ar draws y stafell.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: T. Llew Jones

Postiogan Hazel » Llun 02 Chw 2009 7:34 pm

"Barti Ddu"? Stori am Bartholomew Roberts, y môr-leidr, ydy o? Diolch i chi.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: T. Llew Jones

Postiogan Prysor » Llun 02 Chw 2009 7:39 pm

Ie, Hazel, dyna ti. :D
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: T. Llew Jones

Postiogan osian » Llun 02 Chw 2009 7:55 pm

Trysor y Morladron 'di'r gora. hanas Harri Morgan
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: T. Llew Jones

Postiogan Hazel » Llun 02 Chw 2009 8:01 pm

Diolch i chi i gyd am yr awgrymiadau.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: T. Llew Jones

Postiogan Prysor » Llun 02 Chw 2009 8:23 pm

osian a ddywedodd:Trysor y Morladron 'di'r gora. hanas Harri Morgan


iesu ia 'fyd! don i'm yn gwbod na fo sgwennodd honna :wps: ond oeddan ni'n cael rhyw bennod neu ddwy ar ddiwadd pnawn gan Mistar Jones - pawb onan ni'n gwirioni. Mae na damad am ryw forgrug ynddi does? Marching ants neu rwbath, yn byta bobol. ???
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Nesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron