Barti Ddu gydiodd fy nychymyg. Mae darnau ohoni'n dal yn fyw yn y cof heddiw.
Dwi'm yn cofio run o'r lleill - heblaw'r cloriau.
Ond dwi yn cofio T Llew yn dod i'r ysgol i sgwrsio efo ni, efo rhyw foi o'r enw JR Jones. Cofio lot o chwerthin, a'r stori amdano'n ista ar beipan rheiddiadur (radiator) haearn pan oedd o'n yr ysgol ei hun, a mellten yn hitio'r system beipiau a;i daflu fo ar draws y stafell.
osian a ddywedodd:Trysor y Morladron 'di'r gora. hanas Harri Morgan
iesu ia 'fyd! don i'm yn gwbod na fo sgwennodd honna ond oeddan ni'n cael rhyw bennod neu ddwy ar ddiwadd pnawn gan Mistar Jones - pawb onan ni'n gwirioni. Mae na damad am ryw forgrug ynddi does? Marching ants neu rwbath, yn byta bobol. ???