Tudalen 2 o 2

Re: T. Llew Jones

PostioPostiwyd: Llun 02 Chw 2009 8:32 pm
gan osian
Prysor a ddywedodd:
osian a ddywedodd:Trysor y Morladron 'di'r gora. hanas Harri Morgan


iesu ia 'fyd! don i'm yn gwbod na fo sgwennodd honna :wps: ond oeddan ni'n cael rhyw bennod neu ddwy ar ddiwadd pnawn gan Mistar Jones - pawb onan ni'n gwirioni. Mae na damad am ryw forgrug ynddi does? Marching ants neu rwbath, yn byta bobol. ???

Argol, dwi'm yn cofio hynna. ond mi odda nhw mewn ryw jyngl ryw ben, felly ma'n ddigon posib.

cyfrinach y lludw o'dd yn dda fyd, unrhyw efo sarjant tomos deu gwir

Re: T. Llew Jones

PostioPostiwyd: Llun 02 Chw 2009 9:11 pm
gan Prysor
osian a ddywedodd:Argol, dwi'm yn cofio hynna. ond mi odda nhw mewn ryw jyngl ryw ben, felly ma'n ddigon posib.


ia, dyna fo, oedd rhaid iddyn nhw guddio i adael i'r marching ants fynd heibio, neu rwbath felna, neu fysa nw'n byta pwy bynnag fysa'n sefyll yn eu ffordd, reit i lawr at yr asgwrn mewn chwinciad. Sticiodd y syniad yn y mhen i (oedd gena i ffasineshiyn efo petha felna dwi'n meddwl - gormod o Hammer Horror Double Bills ar nos sadwrns! )

Re: T. Llew Jones

PostioPostiwyd: Maw 03 Chw 2009 5:21 pm
gan Creyr y Nos
Un Noson Dywyll, Corn, Pistol a Chwip a Cri'r Dylluan yw fy ffefrynnau i.
Gwych!

Re: T. Llew Jones

PostioPostiwyd: Maw 03 Chw 2009 5:35 pm
gan Hazel
Diolch Creyr. Rhaid i fi ddewis yn awr.

Re: T. Llew Jones

PostioPostiwyd: Maw 03 Chw 2009 9:40 pm
gan Duw
Trysor Plasywernen i mi. Cofio ei ddarllen yn ysgol a ffaelu aros tan oedd fy mhlant digon hen i'w ddeall. Pleser mawr oedd ei ddarllen iddynt. Atgofion melys.

Re: T. Llew Jones

PostioPostiwyd: Maw 03 Chw 2009 9:43 pm
gan Hazel
Diolch i chi.