A ydych chi'n gwybod at ba bentref y mae I D Hooson yn ei gyfeirio iddo?
Yr Eurych
Mi flinais ar y pentref
A'i deios tlawd, di-liw,
Ei gapel moel, a'i eglwys
Ddiaddurn ar y rhiw.
Ei siopau bach, crintachlyd,
A'i strydoedd gwyrgam, cul,
A dim yn digwydd yno
Ond Sul yn dilyn Sul.
Ond bellach nid yw'r pentref
Mor dlawd nac mor ddi-liw,
Ac nid mor foel y capel
Na'r eglwys ar y rhiw.
A llon a llawn yw'r dyddiau
Dan eiriau a than wên
Yr eurych a ddaeth llynedd
I fyw i'r pentref hen.
Nac enwch ddinas Llundain!
Pwy a'i cymharai hi
Â'r pentref a oreurwyd
Ag aur fy nghariad i?
---I D Hooson