Y chwerthin sydd mor drist!

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Y chwerthin sydd mor drist!

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 17 Maw 2009 4:53 am

Rwy'n chwilio am gerdd a glywais yn cael ei hadrodd mewn Eisteddfod tua 30 mlynedd yn ôl. Roedd yn gerdd am "Yr Afon" (Yr Afon Mawddach hwyrach).

Mae'n dechrau rhywbeth y debyg i:

Mae'r Afon yn y meddwl pan wyt yn ddeunaw / ddeugain / trigain oed
Y dŵr sydd ynddi heddiw yw'r dŵr bu ynddi 'roed


Y darn rwy'n chwilio amdani yw cymal sydd yn dweud bod dyn yn chwerthin wrth edrych yn ôl ar atgofion drwg ond yn crio am atgofion am y dyddiau da a fu!

Os gofiaf yn iawn - Y chwerthin sydd mor drist!

Byddwn yn ddiolchgar am gyfarwyddyd i gael gafael ar gopi o'r gerdd!
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Y chwerthin sydd mor drist!

Postiogan Muralitharan » Mer 18 Maw 2009 11:53 am

Beth am yrru nodyn at Annedd y Cynganeddwyr hefyd?
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Y chwerthin sydd mor drist!

Postiogan Hazel » Mer 18 Maw 2009 1:03 pm

Muralitharan a ddywedodd:Beth am yrru nodyn at Annedd y Cynganeddwyr hefyd?


Pwy ydy Annedd y Cynganeddwyr? Dw i chwilio am gerdd hefyd. Rydfw i'n methu dod o hyd iddi o gwbwl. Diolch
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Y chwerthin sydd mor drist!

Postiogan sian » Mer 18 Maw 2009 1:27 pm

Dyma Annedd y Cynganeddwyr. Mae'n eitha tawel ar hyn o bryd ond yn gallu bod yn sbort!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Y chwerthin sydd mor drist!

Postiogan Garreg Lwyd » Gwe 10 Ebr 2009 10:58 pm

Rwy'n gwybod o ble daw'r dyfyniad hwn; darn o gerdd gan yr anfarwol T. Glynne Davies ydyw. Afon Conwy yw'r afon, ac mae'r gerdd yn cychwyn â'r llinell ‘Mae afon yn y meddwl’. Enw'r gerdd yw ‘Pan ewch yn ganol oed’. Mae hi ar dudalen 153 o Cerddi T. Glynne Davies (Barddas). Cerdd wirioneddol ardderchog.
Ni leddir yr un genedl nac iaith onid gan ei phobl ei hun.
D. J. Williams
Garreg Lwyd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 42
Ymunwyd: Maw 25 Hyd 2005 10:25 am
Lleoliad: Rhydaman


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai