Rwy'n chwilio am gerdd a glywais yn cael ei hadrodd mewn Eisteddfod tua 30 mlynedd yn ôl. Roedd yn gerdd am "Yr Afon" (Yr Afon Mawddach hwyrach).
Mae'n dechrau rhywbeth y debyg i:
Mae'r Afon yn y meddwl pan wyt yn ddeunaw / ddeugain / trigain oed
Y dŵr sydd ynddi heddiw yw'r dŵr bu ynddi 'roed
Y darn rwy'n chwilio amdani yw cymal sydd yn dweud bod dyn yn chwerthin wrth edrych yn ôl ar atgofion drwg ond yn crio am atgofion am y dyddiau da a fu!
Os gofiaf yn iawn - Y chwerthin sydd mor drist!
Byddwn yn ddiolchgar am gyfarwyddyd i gael gafael ar gopi o'r gerdd!