Sgubo'r Storws - Dic Jones - oes gan rhywun gopi?

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sgubo'r Storws - Dic Jones - oes gan rhywun gopi?

Postiogan -Orion yr Heliwr- » Maw 24 Maw 2009 4:41 pm

Dwi'm yn siŵr iawn lle ma' f'un i. Os oes gan rywun gopi, allech chi wneud ffafr ENFAWR i mi a theipio geiria'r ail a'r trydydd pennill o'r gerdd 'Tan Llywelyn' yn fama i mi? Mi fyswn i'n ddiolchgar iawn.

Hwyl.
Rhithffurf defnyddiwr
-Orion yr Heliwr-
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 274
Ymunwyd: Mer 02 Chw 2005 4:41 pm
Lleoliad: Cricieth

Re: Sgubo'r Storws - Dic Jones - oes gan rhywun gopi?

Postiogan Hazel » Maw 24 Maw 2009 5:02 pm

Tan Llywelyn

Mae isel dân Llywelyn
Yn para yng Ngwalia 'nghŷn,
Grymusodd rhag gormeswr
Ei olau'n dwym yng Nglyndŵr,
A'i farwor a adferwyd
Yn gannwyll losg Morgan Llwyd.

Penyberth yn goelcerthi,
A'i wres yng nghalonnau'r Tri,
A'i olau ar ruddiau rhwth
Wynebau gwŷr Carnabwth
Wrth gynnau porth y gynnen
Hyd ei sail yn Efail-wen.

Megis ar ros yn mygu,
Mae'n dwym dan y mannau du.
Er marw bron gwreichionen,
Awel Mawrth a'i try'n fflam wen
Fan arall a dyr allan --
Mae'n anodd diffodd ei dân.

---Dic Jones
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron