Cyfieithiad Kahlil Gibran ar gyfer Priodas

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cyfieithiad Kahlil Gibran ar gyfer Priodas

Postiogan Bel » Mer 08 Ebr 2009 4:35 pm

Dwi'n priodi cyn hir ac angen help plis i ffeindio os oes cyfieithiad Cymraeg ar gael o 'Friendship' allan o The Prophet gan Kahlil Gibran. Mae rhannau eraill o'i waith wedi eu cyfieithu yn 'Geiriau Gorfoledd a Galar', D.Geraint Lewis ond nid y darn dwi ei eisiau.

Hefyd dwi'n gwybod fod cyfieithiad Cymraeg ar gael o ddyfyniad allan o Captain Corelli's Mandolin sy'n cael ei ddefnyddio'n aml mewn priodasau...ond dwi'n methu'n lan a'i ffeindio!
Bel
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Mer 08 Ebr 2009 4:16 pm

Re: Cyfieithiad Kahlil Gibran ar gyfer Priodas

Postiogan Meg » Mer 08 Ebr 2009 6:49 pm

Dyma gyfieithiad o be ddeudodd o am briodas:

Carwch eich gilydd, ond peidiwch a rhoi clo ar eich cariad ...
Llanwch gwpanau eich gilydd - ond heb yfed o’r un cwpan.
Rhanwch fara i’r naill fel y llall - ond peidiwch a bwyta o’r un dafell.
Canwch a dawnsiwch gyda’ch gilydd a byddwch lawen, ond gadewch i’r ddau ohonoch fod ar wahân hefyd,
Fel mae tannau’r delyn ar wahân ond yn canu’r un dôn.

Rhowch eich calonnau, ond nid i’r llall ei roi dan glo ...
A sefwch gyda’ch gilydd ond nid yn rhy agos:
Oherwydd mae pileri’r deml yn sefyll ar wahân,
A dyw’r dderwen a’r onnen yn tyfu dim yng nghysgod ei gilydd.
Meg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 223
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 1:06 pm
Lleoliad: Gogledd


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron