Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn

Postiogan Hazel » Maw 26 Mai 2009 2:36 pm

Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:cytuno. dwi di darllan petrograd a teulu lord bach (dylyfu gen) a does 'na ddim cymhraiaeth - dwi'm yn dallt be sy' ar benna'r beirniaid 'ma. :?


"dylyfu gen"? Diflas? Sut? Ym mha ffordd, ogwydd?
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn

Postiogan Macsen » Maw 26 Mai 2009 4:21 pm

Nes i gyraedd tua hanner ffordd drwy Teulu Lord Bach. Dwi'm yn meddwl ei fod o'n rhy hir... mae na lot o lyfrau hirach ydw i wedi eu darllen nhw o glaw i glawr. Y problem dwi'n meddwl ydi ei fod o'n dri nofel i bob pwrpas, gyda plots a cymeriadau gwahanol, er bod na edefyn cyffredin yn rhedeg drwy pob un. Tri nofel da iawn, ond fyddwn i byth yn darllen tri nofel mewn rhes o'r un ganre ac efo'r un awdur heb ddiflasu.
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Maw 26 Mai 2009 6:02 pm

ma' hi'n nofel iawn, chwara teg, ond does 'na ddim byd sy'n newid dy fywyd di amdani o'i darllen, sef rwbath sy'n gneud nofel dda yn 'y marn i - sef be' 'nath 'yn hon bu afon unwaith' i fi, i rei gradda. ma' 'teulu lord bach' fatha bod yr awdur jyst yn gneud ati i fod yn hir, jyst er mwyn, o'n i'n teimlo. wedi deud hynny, neshi fynd i mewn iddi tra o'n i'n ei darllan hi, oedd y cymeriada'n ddigon difyr, ac oedd o'n ddiddorol meddwl am effaith prydeindod a rhyfeloedd mawr ar un teulu, a chenedlaetha' o'r un teulu ond... o mai god dwi'n borio'n hun yn sgwennu amdani. jyst hirwyntog a di-fflach braidd... i mi.

ynglyn a petrograd, dwi'n meddwl bod gin hon mwy o obaith i ennill, ond a bod yn onest o'n i ddim yn meddwl 'i bod hi cystal. ma'r syniad yn un difyr, a'r hanes, ond doedd gin i ddim uffar o ots am 'run o'r cymeriada a deud y gwir - na fawr o syniad pa un oedd pa un. dwnim, ella'i bod hi'n nofel sy' angen 'i darllan fwy nag unwaith, ond fel dudodd rhywun, ma' bywyd yn rhy fyr.
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn

Postiogan Hazel » Maw 26 Mai 2009 6:27 pm

Diolch yn fawr. Dim ond eisiau clywed o rywun a oedd o wedi ei darllen e.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Nôl

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron