Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn

Postiogan Muralitharan » Iau 23 Ebr 2009 9:11 am

Beth mae pawb yn ei feddwl?

Alla i ddim credu nad yw Nawr, T. James Jones ar y rhestr! Mae hon yn gyfrol eithriadol o gyfoethog a gwych.
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn

Postiogan Creyr y Nos » Iau 23 Ebr 2009 9:51 am

Dadleuol a dweud y lleiaf.
Cytuno y dylai 'Nawr' fod yno, ac mae nofel Prysor wedi ei anwybyddu eto.
Cynrychiolaeth uchel o gyfrolau ffeithiol eleni - hanner y cyfrolau!
Clywais Meg Elis a Catrin Beard ar raglen Gwilym Owen yn dweud y byddai'r ddwy ohonyn yn cynnwys Llyfr Glas Eurig gan Eurig Salisbury hefyd, ond dim lle i'r gyfrol yma.

Dyma'r rhesrt yn llawn:
Mared Lewis - Y Maison du Soleil (Gwasg Gwynedd)
Aled Jones Williams - Yn hon bu afon unwaith (Gwasg y Bwthyn)
Geraint V. Jones - Teulu Lòrd Bach (Gwasg Gomer)
J. Towyn Jones - Rhag ofn ysbrydion (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion)
Wiliam Owen Roberts - Petrograd (Cyhoeddiadau Barddas)
Gwilym Prys Davies - Cynhaeaf Hanner Canrif – Gwleidyddiaeth Gymreig 1945-2005 (Gwasg Gomer)
Robyn Léwis - Bwystfilod Rheibus (Gwasg y Bwthyn)
Hefin Wyn - Pentigily (Y Lolfa)
Myrddin ap Dafydd - Bore Newydd (Gwasg Carreg Gwalch)
Harri Parri - Portreadau Harri Parri: Iaith y Brain ac Awen Brudd (Gwasg y Bwthyn)
'Don't piss down my back and tell me it's rainin' - The Outlaw Josey Wales

Dewrion yw adar y nos
Rhithffurf defnyddiwr
Creyr y Nos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 395
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 8:30 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn

Postiogan sian » Iau 23 Ebr 2009 10:24 am

Ro'n i'n sicr yn disgwyl gweld "O Ran" Mererid Hopwood yno ac o leiaf un ffeithiol swmpus - Geraint Gruffudd/Gwion Lewis/Alan Llwyd (er nad ydw i wedi'u darllen nhw) - a Nawr / Glas / Rhyw Deid - prin o farddoniaeth eleni eto.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn

Postiogan Hazel » Iau 23 Ebr 2009 12:08 pm

Gofynais i Academi beth yw'r safanolau am feirniadu a phenderfynu. Nid wnaethon nhw ddim dweud wrtho i. Yn lle, dywedasan nhw pwy oedd y beirniadu. Cwestiwn twp, efallai, ond byddwn i'n hoffi gwybod.
Golygwyd diwethaf gan Hazel ar Iau 23 Ebr 2009 6:15 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn

Postiogan sian » Iau 23 Ebr 2009 2:50 pm

Hazel a ddywedodd:Gofynais i Academi beth yw'r safanolau am feirniadu a phenderfynu. Nid wnaethon nhw ddim dweud wrtho i. Yn lle, dywedasan nhw pwy sy'n beirniadu. Cwestiwn twp, efallai, ond byddwn i'n hoffi gwybod.


Roedd Catrin Beard, un o'r cyn-feirniaid yn siarad ar y Sioe Gelf neithiwr ac fe ddywedodd hi rywbeth fel "Doedd yr Academi yn rhoi dim canllawiau o gwbl a wnes i ofyn iddyn nhw "Wel, be 'da chi ishe i ni edrych arno fo?" a ... ddywedon nhw (codi ysgwydde) "Llyfr y Flwyddyn". Tua 12 munud i mewn i'r clip yma

Yn ôl gwefan Academi: "Dyfernir gwobrwyon Llyfr y Flwyddyn, a weinyddir gan yr Academi, yn flynyddol i’r gweithiau gorau yn y Gymraeg a’r Saesneg ym maesydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol."

Dw i'n cofio un flwyddyn, doedd hunangofiannau ddim yn cael eu cyfrif yn gymwys ond maen nhw erbyn hyn.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn

Postiogan Hazel » Iau 23 Ebr 2009 3:19 pm

sian a ddywedodd:
Hazel a ddywedodd:
Gofynais i Academi beth yw'r safanolau am feirniadu a phenderfynu. Nid wnaethon nhw ddim dweud wrtho i. Yn lle, dywedasan nhw pwy sy'n beirniadu. Cwestiwn twp, efallai, ond byddwn i'n hoffi gwybod.


Roedd Catrin Beard, un o'r cyn-feirniaid yn siarad ar y Sioe Gelf neithiwr ac fe ddywedodd hi rywbeth fel "Doedd yr Academi yn rhoi dim canllawiau o gwbl a wnes i ofyn iddyn nhw "Wel, be 'da chi ishe i ni edrych arno fo?" a ... ddywedon nhw (codi ysgwydde) "Llyfr y Flwyddyn". Tua 12 munud i mewn i'r clip yma


Nid alla i ddim yn ei gael e. Beth ydw i'n gwneud anghywir?
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn

Postiogan Kez » Iau 23 Ebr 2009 3:55 pm

Mae ond ar gael yn y DU.

Odi hyn yn gweithio:

http://www.s4c.co.uk/clic/c_level2.shtml?series_id=346731544
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn

Postiogan Hazel » Iau 23 Ebr 2009 8:36 pm

Ydy hi'n wir? All y cyhoedd pleisleisio dros y llyfr iaith Saesneg ond dim dros y llyfr iaith Gymraeg?

http://www.walesonline.co.uk/showbiz-an ... -the-year/

http://www.walesonline.co.uk/showbiz-an ... -23448020/
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn

Postiogan Academi » Iau 23 Ebr 2009 9:04 pm

Gallwch bleidleisio am dros eich ffefryn o'r Rhestr Hir Cymraeg drwy anfon eich enwebiad at pleidleisio@academi.org. Bydd blychau pleisleisio yn Eisteddfod yr Urdd a Gwyl y Gelli yn ogystal
Yr Asiantaeth Hyrwyddo Llenyddiaeth Genedlaethol a Chymdeithas Llenorion Cymru
http://www.academi.org
Academi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 29
Ymunwyd: Maw 13 Gor 2004 12:23 pm

Re: Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn

Postiogan Hazel » Iau 23 Ebr 2009 9:17 pm

O, roeddwn yn meddwl amdani ar ôl i mi darllen y cylchlythyr a'r dudalen wefan yna. Diolch.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Nesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai

cron