Mae'n rhestr od. Dwi, fel Dogfael, ddim yn gallu deall beth yn y byd roedd y beirniaid yn trio'i gyflawni - ond yn wahanol i Dogfael sgen i ddim diddordeb mewn faint o'r rhestr sy'n fenywod / gogleddwyr / beth bynnag. Dyma gwpwl o eiria am bob llyfr; dwi ddim di'u darllen nhw i gyd gyda llaw, mae bywyd yn rhy fyr.
Mared Lewis - Y Maison du Soleil (Gwasg Gwynedd)Mae nghariad i'n mwynhau nofelau tebyg i hon, sy'n sôn am berthynas a thensiwn a chyfeillgarwch aballu. Wnaeth hi ddim mwynhau hon. Tocenistiaeth? Rwbath i'r bobol ifanc de?
Aled Jones Williams - Yn hon bu afon unwaith (Gwasg y Bwthyn)Nofel ardderchog. Rhy unigolyddol (yn y ffordd orau) i ennill y wobr ella - bosib fod angen i lyfr y flwyddyn fod yn fwy ei sgôp na pherthynas un wraig ac un dyn, ond dydi hynny ddim yn tynnu oddi ar safon y llyfr.
Geraint V. Jones - Teulu Lòrd Bach (Gwasg Gomer)Mae angen mwy o nofelau fel hyn, sy'n nofelau cymdeithasol chwarelyddol fel rhei erstalwm ond sy'n fwy personol. Mae hon yn epig trowlandhughesaidd ond wedi'i sgwennu ar ôl i'r gymdeithas ddirywio a cholli'i hundod. Gwd bwc.
J. Towyn Jones - Rhag ofn ysbrydion (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion)Ddim y cyntaf a ddim yr olaf o lyfrau gan hen ddynion sy'n credu mewn ysbrydion. Dwi ddim yn gwbod be sy'n arbennig am hwn.
Wiliam Owen Roberts - Petrograd (Cyhoeddiadau Barddas)Beast o nofel. Llyfr y flwyddyn os oes 'na unrhyw gyfiawnder yn y byd.
Gwilym Prys Davies - Cynhaeaf Hanner Canrif – Gwleidyddiaeth Gymreig 1945-2005 (Gwasg Gomer)Digon difyr am wn i.
Robyn Léwis - Bwystfilod Rheibus (Gwasg y Bwthyn)Jyst...pam?
Hefin Wyn - Pentigily (Y Lolfa)Dydi llyfrau teithio tafodieithol ddim yn apelio ata i'n bersonol. (Mae Dogfael yn cwyno am brinder llyfrau o'r de-orllewin..mae hwn yn cyfri fel pump o'r rheini siawns!
)
Myrddin ap Dafydd - Bore Newydd (Gwasg Carreg Gwalch)Sterling Myrddin ap Dafydd. Ond dwi'n teimlo colli awdl neu gasgliad eisteddfodol fel rhyw fath o focal point, ac hefyd dwi'n teimlo bod 'na ormod o gyffyrddiadau personol/lleol weithiau. Ond mae o'n fardd eithriadol o dda.
Harri Parri - Portreadau Harri Parri: Iaith y Brain ac Awen Brudd (Gwasg y Bwthyn)Eto, digon difyr am wn i, ond dwn i ddim be sy'n arbennig am y llyfr.
Dwi'n meddwl bod dweud 'be ydi llyfr y flwyddyn?' yn ddigon o ganllaw. Yr hyn sydd angen ydi llyfr anghyffredin o dda, sydd efo rhyw fath o x-factor a gweledigaeth arbenning yn ei faes. Mae'r rhestr yn rhy llawn o lyfrau cyffredin eu safon, cyffredin eu gweledigaeth sydd ddim o lot o ddiddordeb i bobol sy ddim yn nabod eu hawduron.
Dyma'r llyfrau y byddwn i wedi'u dewis:
Wiliam Owen Roberts, Petrograd, Cyhoeddiadau Barddas
Aled Jones Williams, Yn Hon Bu Afon Unwaith, Gwasg y Bwthyn
Gwion Lewis, Hawl i’r Gymraeg, Y Lolfa
T. James Jones, Nawr, Cyhoeddiadau Barddas
Eurig Salisbury, Llyfr Glas Eurig, Cyhoeddiadau Barddas
Mererid Hopwood, O Ran, Gwasg Gomer
Myrddin ap Dafydd, Bore Newydd, Gwasg Carreg Gwalch
Geraint V. Jones, Teulu Lòrd Bach, Gwasg Gomer
Alan Llwyd, Prifysgol y Werin: Hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1900-1918, Cyhoeddiadau Barddas
Enid Jones, FfugLen, Gwasg Prifysgol Cymru