gan Tracsiwt Gwyrdd » Maw 26 Mai 2009 6:02 pm
ma' hi'n nofel iawn, chwara teg, ond does 'na ddim byd sy'n newid dy fywyd di amdani o'i darllen, sef rwbath sy'n gneud nofel dda yn 'y marn i - sef be' 'nath 'yn hon bu afon unwaith' i fi, i rei gradda. ma' 'teulu lord bach' fatha bod yr awdur jyst yn gneud ati i fod yn hir, jyst er mwyn, o'n i'n teimlo. wedi deud hynny, neshi fynd i mewn iddi tra o'n i'n ei darllan hi, oedd y cymeriada'n ddigon difyr, ac oedd o'n ddiddorol meddwl am effaith prydeindod a rhyfeloedd mawr ar un teulu, a chenedlaetha' o'r un teulu ond... o mai god dwi'n borio'n hun yn sgwennu amdani. jyst hirwyntog a di-fflach braidd... i mi.
ynglyn a petrograd, dwi'n meddwl bod gin hon mwy o obaith i ennill, ond a bod yn onest o'n i ddim yn meddwl 'i bod hi cystal. ma'r syniad yn un difyr, a'r hanes, ond doedd gin i ddim uffar o ots am 'run o'r cymeriada a deud y gwir - na fawr o syniad pa un oedd pa un. dwnim, ella'i bod hi'n nofel sy' angen 'i darllan fwy nag unwaith, ond fel dudodd rhywun, ma' bywyd yn rhy fyr.