gan Tracsiwt Gwyrdd » Llun 27 Ebr 2009 9:28 am
wel, digwydd bod, oes! ma' na stori bod 'na hogan yn bodio ar ochr lon wrth y troiad am benygroes oddi ar y lon bost, ond erbyn i rywun fynd yn nes / pasio, ma hi'n diflannu. lot o bobol 'di gweld hon mae'n debyg, a'r stori ydi 'i bod hi'n cerddad ffor' 'na bob bora a nos i fynd i'w gwaith, a'i bod hi wedi cael ei lladd.
ma' 'na lwyth o storis am glynllifon. mynwent y cwn a ballu, ond fedra' i'm meddwl am ddim un rwan! ma' na lyfr am straeon ysbryd yr ardal, ond dwi ddim yn cofio be di enw hwnnw na phwy sgwennodd o chwaith. mond na llun cannwyll oedd ar y clawr. nai holi.
i be mae o, hogan?