Garreg Lwyd a ddywedodd:
Hefyd Rhiannon Davies Jones – Lleian Llan-llyr, Fy Hen Lyfr Cownt, LLys Aberffraw, Eryr Pengwern ayb (ofnaf bod y cyfan allan o brint)
Darllenais Llys Aberffraw blynyddoedd yn ol, wedi trio chwilio am y copi yn ddiweddar heb lwyddiant. Llyfr gwych am ferch yn tyfu fyny yn Aberffraw, hanner yr amser yn y pentre gyda'r taeogion, ac hefyd yn treulio amser yn y llys fel morwyn, yn amser Owain Gwynedd. Sw ni wrth fy modd ei ddarllen eto, a nofelau eraill Rhiannon Davies Jones.
Nofel ffug hanesyddol- yr un ysgrifennodd Twm Morys a Jan Morys am Cymru os buasai y Natsiaid wedi ennill y rhyfel - meth cofio'r enw!