Tudalen 2 o 3

Re: Llenyddiaeth Ffug-Hanesyddol Cymraeg

PostioPostiwyd: Iau 04 Meh 2009 7:49 pm
gan Geraint
Faint o nofelau Cymraeg am oes y Tywysogiion sydd, fel rhai gwych Sharon Penman?

Darllenais un blynyddoedd yn ol am ferch yn Aberfrraw adeg Owain Gwynedd, gan Angharad rhwbeth dwi'n meddwl.

Re: Llenyddiaeth Ffug-Hanesyddol Cymraeg

PostioPostiwyd: Iau 04 Meh 2009 9:23 pm
gan Josgin
Fe wnes ddarllen 'Gwres o'r Gorllewin ' am Gruffydd ap Cynan yn yr ysgol .
Llyfr diflas tu hwnt. Son amdano'n hiraethu am ei wraig yn y carchar yn hytrach na'r ymladd,lladd ayb yr oedd yr hogiau eisiau .

Re: Llenyddiaeth Ffug-Hanesyddol Cymraeg

PostioPostiwyd: Sad 06 Meh 2009 3:26 pm
gan Hazel
Josgin a ddywedodd:Fe wnes ddarllen 'Gwres o'r Gorllewin ' am Gruffydd ap Cynan yn yr ysgol .
Llyfr diflas tu hwnt. Son amdano'n hiraethu am ei wraig yn y carchar yn hytrach na'r ymladd,lladd ayb yr oedd yr hogiau eisiau .


Josgin, pwy ydy'r awdur, ogwydd?

Re: Llenyddiaeth Ffug-Hanesyddol Cymraeg

PostioPostiwyd: Sad 06 Meh 2009 6:37 pm
gan Josgin
Ddim yn cofio, mi ofnaf . Ifor rhywbeth ?. Roedd hyn yn y 70au , ac mi 'roedd o'n lyfr mor ddiflas welais i erioed gyfeiriad arall ato fo heblaw am faes llafur Cymraeg Llen . Fe ddaeth yr awdur i siarad hefo ni (roedd o'n byw yn lleol ) . Tydwi'n sicr ddim yn cofio ei eiriau .
Dwi'n cofio darllen dau lyfr pan oedwn i'n blentyn sy'n hanesyddol erbyn rwan -' Y march Coch' a 'Bandit Yr Andes ' gan R.Bryn Williams
'Westerns ' Cymraeg . Maent yn son am y Wladfa

Re: Llenyddiaeth Ffug-Hanesyddol Cymraeg

PostioPostiwyd: Sad 06 Meh 2009 7:10 pm
gan Hazel
O'r gorau. Diolch. Dydw i ddim yn dod o hyd iddo drwy'r teitl. Nid ydy hi'n bwysig.

Re: Llenyddiaeth Ffug-Hanesyddol Cymraeg

PostioPostiwyd: Sad 06 Meh 2009 7:32 pm
gan sian
Ifor Wyn Williams ysgrifennodd Gwres o'r Gorllewin. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor yn 1971. Gwasg Gomer oedd y cyhoeddwyr - ISBN 0850881714 ond mae'n debyg ei fod allan o brint.

Re: Llenyddiaeth Ffug-Hanesyddol Cymraeg

PostioPostiwyd: Sad 06 Meh 2009 7:54 pm
gan Hazel
Diolch. Mae gen i gyfaill a fydd hi'n dod o hyd iddo os ydy'n bosibl.

Re: Llenyddiaeth Ffug-Hanesyddol Cymraeg

PostioPostiwyd: Maw 09 Meh 2009 9:48 am
gan Garreg Lwyd
Nofelau ag iddynt gefndir hanesyddol yw'r rhain...

Catrin o Ferain (mewn print, gan Gomer) a'r ddwy nofel arall sy'n ei dilyn gan Cyril Hughes. Hanes cyfnod Elizabeth I yw cefndir y nofelau.

Rwy'n cofio darllen nofelau gan Gweneth Lilly yn yr ysgol, e.e. Rwy'n Cofio dy Dad (cyfnod Llywelyn ein Llyw Olaf). Nofel i bobl ifanc, ond arhosodd yn fy nghof am amser maith.

Hefyd Rhiannon Davies Jones – Lleian Llan-llyr, Fy Hen Lyfr Cownt, LLys Aberffraw, Eryr Pengwern ayb (ofnaf bod y cyfan allan o brint)

Mae Os Marw Hon a Sarah Arall gan Aled Islwyn yn ddiddorol, elfen o gyfuno hanes a'r presennol.

A beth am Y Pla gan Wiliam Owen Roberts? Dyna Ffug-hanes os bu erioed yn Gymraeg! Ond hollol wych.

Re: Llenyddiaeth Ffug-Hanesyddol Cymraeg

PostioPostiwyd: Maw 09 Meh 2009 9:51 am
gan Garreg Lwyd
Ac wrth gwrs, I Fyd Sy Well gan Sian Eirian Rees Davies. Ymfudiad i'r Wladfa yw'r cefndir i honno.

Re: Llenyddiaeth Ffug-Hanesyddol Cymraeg

PostioPostiwyd: Maw 09 Meh 2009 10:02 am
gan sian
Garreg Lwyd a ddywedodd:Ac wrth gwrs, I Fyd Sy Well gan Sian Eirian Rees Davies. Ymfudiad i'r Wladfa yw'r cefndir i honno.


Mae hon yn nofel ddadleuol am ei bod yn defnyddio enwau cymeriadau go iawn ac yn gwau storiau sydd heb unrhyw sail hanesyddol o'u cwmpas - e.e. am odineb a 'chariad cyfunrywiol'. Mae nifer o adolygwyr wedi gofyn a oes gan awdur hawl i wneud hyn. Adolygiad yma.