Teitl
Postiwyd:
Maw 19 Mai 2009 1:26 pm
gan Hazel
Oes 'na unrhywun sy'n gwybod y teitl o'r emyn yma?
Dwy law yn erfyn sydd yn y darlun
wrth ymyl fy ngwely i;
bob bore a nos mae'u gweddi'n un dlos,
mi wn er na chlywaf hi.
Pan af i gysgu, mae'r ddwy law hynny
wrth ymyl fy ngwely i
mewn gweddi ar Dduw i'm cadw i'n fyw,
mi wn er na chlywaf hi.
A phan ddaw'r bore, a'r wawr yn ole
wrth ymyl fy ngwely i,
mae'r weddi o hyd yn fiwsig i gyd,
mi wn er na chlywaf hi.
Rhyw nos fach dawel fe ddwg yr awel
o ymyl fy ngwely i
y weddi i'r sêr, fel eos o bêr,
a minnau'n ei chlywed hi.
---T. Rowland Hughes.
Re: Teitl
Postiwyd:
Maw 19 Mai 2009 1:35 pm
gan Hazel
Diolch i chi. Ydy'r emyn yn cyfeirio at y darlun o'r "Praying Hands"?
Re: Teitl
Postiwyd:
Maw 19 Mai 2009 1:39 pm
gan Ray Diota
Hazel a ddywedodd:Diolch i chi. Ydy'r emyn yn cyfeirio at y darlun o'r "Praying Hands"?
dwi wastad wedi'i alw fe'n 'Dwy law yn erfyn'... a ma 'na ganlyniadau yn g'neud yr un peth ar google...
Re: Teitl
Postiwyd:
Maw 19 Mai 2009 1:54 pm
gan Del
Hazel a ddywedodd:Diolch i chi. Ydy'r emyn yn cyfeirio at y darlun o'r "Praying Hands"?
Ydi. Roedd print o lun enwog Albrecht Dürer yn hongian ar wal stafell wely'r awdur, T. Rowland Hughes, a dyna, mae'n debyg, wnaeth ei ysbrydoli i sgrifennu'r emyn.
Re: Teitl
Postiwyd:
Maw 19 Mai 2009 1:55 pm
gan sian
Ray Diota a ddywedodd:Hazel a ddywedodd:Diolch i chi. Ydy'r emyn yn cyfeirio at y darlun o'r "Praying Hands"?
dwi wastad wedi'i alw fe'n 'Dwy law yn erfyn'... a ma 'na ganlyniadau yn g'neud yr un peth ar google...
Dw i'n meddwl efallai dy fod ti'n iawn - ac mai teitl y dôn a ysgrifennwyd ar ei chyfer gan Davey Davies (cyd-awdur We'll Keep a Welcome in the Hillside) yw Y Darlun.
Ydi, Hazel - gan Albrecht Durer.
(Newydd fod yn pori yn Cydymaith i Caneuon Ffydd)
Re: Teitl
Postiwyd:
Maw 19 Mai 2009 2:04 pm
gan Hazel
Mae 'na llawer o bobl sy'n galw emnynau gan y llinell cyntaf. Hyd yn oed un o fy llyfr emyn yn eu galw nhw gan y llinell cyntaf. Dyna gywir hefyd. Mae'n haws i'w gofio.
Ar ôl yr ateb gan Sian, dw i'n edrych ar y cryno-ddysg "Benedictus" a dyna hi: "Y Darlun"
Diolch i chi'ch dau.
Re: Teitl
Postiwyd:
Maw 19 Mai 2009 2:08 pm
gan Hazel
Del a ddywedodd:Hazel a ddywedodd:Diolch i chi. Ydy'r emyn yn cyfeirio at y darlun o'r "Praying Hands"?
Ydi. Roedd print o lun enwog Albrecht Dürer yn hongian ar wal stafell wely'r awdur, T. Rowland Hughes, a dyna, mae'n debyg, wnaeth ei ysbrydoli i sgrifennu'r emyn.
Diolch. Dyna be' oeddwn i'n meddwl.