Borders a Phrinder Llyfrau Cymraeg

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Borders a Phrinder Llyfrau Cymraeg

Postiogan Duw » Llun 20 Gor 2009 1:10 pm

Gyda thristwch y glywais fod Borders, cangen Tonysguboriau, ger Llantrisant yn cau. Roedd yn ffynhonnell wych ar gyfer llyfrau Cymraeg, ond yn ol y son, maent wedi gwerthu mas i New Look (cynnig Don Corleone o beth dwi'n clywed). Afiach o beth. Y peth diwethaf sydd angen yn yr ardal yw siop ddillad arall. Trueni nid oedd modd i rywun (cynulliad?) ddwyn perswad ar gwmni llyfrau i beidio â gwerthu.

Nawr, bydd yn rhaid trepso mewn i Gaerdydd neu'r Eglwys Newydd i brynu llyfrau Cymraeg o safon i'm plant. Gyted.

Yn sicr bydd effaith ar gyflog awduron; plant a'u rhieni; athrawon ac addysg Gymraeg yr ardal.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Borders a Phrinder Llyfrau Cymraeg

Postiogan Hazel » Llun 20 Gor 2009 3:02 pm

Duw a ddywedodd: Y peth diwethaf sydd angen yn yr ardal yw siop ddillad arall.


Mae pethau'n yr un dros y byd i gyd.

Duw, rhai blynnoedd yn ôl, roedd Borders yn ein marchnadfa'n cau. Nid oedd eisiau ar Borders ond roedd eisiau ar y perchennog o'r farchnadfa er mwyn agor siop ddillad arall. Ysgrifennais i beth ydych chi'n dweud yn union. "Y peth diwethaf sydd angen yn y farchnadfa 'ma yw siop ddillad arall." Roedd yr holl farchnadfa'n un siop ddillad fawr.

Llyfrwerthwyr da ydy Borders. Yma yn America Ganol, hyd yn oed, byddan nhw'n chwilio am lyfrau Cymraeg i fi. Na fydd Barnes & Noble yn gwneud hynny.

'Sgen i pam maen' nhw'n cau. :(
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Borders a Phrinder Llyfrau Cymraeg

Postiogan Rhys » Mer 22 Gor 2009 7:50 pm

Beth am Siop y Bont yn marchnad Pontypridd..... :)

Bechod bod chi'n colli Borders. Dw i wedi bod yn cesio osgoi prynu o siopau mawr felly, ond deallaf bod gan Borders LLantrisant ddwis da, ac yn ddiweddar cefais sioc drwy fy nhîn o weld bod Borders Caerdydd yn gwerthu Barn (a Sylw!), Golwg, Llafar Gwlad, Y Wawr ac dau neu dri aral Cymraeg.. Toes nunlle arall yn ganol ddinas yn gwerthu llyfrau Cymraeg ond nhw rwan chwaith (efallai bod gan WH Smiths lond llaw), felly dw i'n eu cefnogi nhw rwan. Fi oed dy trydydd person i brynu Barn yno echdoe.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Borders a Phrinder Llyfrau Cymraeg

Postiogan Duw » Mer 22 Gor 2009 9:49 pm

Ie, wel ma Siop y Bont yn weddol, er stim byd arall ym Mhontypridd i'm denu. T wll y diawl - trueni. O leia bo digon yng Nghaerdydd i roi gwerth i'r trip.:rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron