Mae'r syniad o gael ffeit rhwng Barn a Sylw'n wirion, oherwydd mae gwneud i ffwrdd â chylchgrawn mor uchel ei barch, safonol a da â Barn yn wallgofrwydd. Tasai Barn wedi bod yn gwaethygu ac yn dal i lyncu arian cyhoeddus i gynhyrchu rhywbeth gwael, mi fyddai rhoi'r farwol iddo a chychwyn Sylw yn beth gwych. Ond mae Barn yn wych bob mis ac yn anhepgor am sylwebaeth safonol, arbenigol ar faterion y dydd.
Ar y llaw arall, er bod 'na rai pethau Golwgaidd ddiddim ynddo, mae Sylw wedi profi ei fod yn gylchgrawn difyr, bywiog ac a dweud y gwir, mi fyddai'n chwith gweld ei golli.
Y broblem ydi bod Sylw wedi herio'r bobl rong.
Mae 'na ddau gyhoeddiad materion cyfoes Cymraeg sy'n derbyn arian cyhoeddus sy jyst wedi pasio'u sell by date - Golwg a'r Cymro.
- Mae Golwg yn arwynebol y rhan fwyaf o'r amser ac mae unrhyw beth mwy juicy sydd ganddyn nhw fel arfer...wel...ddim yn wir. Mae'r adrannau celfyddydol yn ok ond y materion cyfoes yn wael. Hefyd gyda Golwg360 maen nhw wedi colli unrhyw gapital oedd gynnyn nhw o ran hygrededd. Ond byddai modd cadw'r brand i fynd gyda Golwg360 ar gyfer newyddion.
- Dydi'r Cymro ddim yn gwneud unrhywbeth nad ydi'r papurau bro'n ei wneud yn llawer iawn gwell.
Felly, beth am hyn fel yr arlwy i'r dyfodol.
- Golwg360 - mae'n rhy newydd i'w ddileu - am newyddion dyddiol.
Sylw'n wythnosol gyda golwg fwy eang/sketchaidd ar y newyddion + yr hyn sydd ynddo fo'n barod o ran straeon nodwedd a phethau celfyddydol. Mae cael cynifer o golofnwyr yn wych.
Barn yn fisol. Fel y mae ond gyda llai o gelf, ac efallai mwy o bethau academaidd.
Dewch â'ch syniadau chi!