Cylchgronau Cymraeg - beth i'w wneud?

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cylchgronau Cymraeg - beth i'w wneud?

Postiogan GringoOrinjo » Llun 03 Awst 2009 10:10 am

Mae saith allan o wyth o'r llyfrau a'r cd's sy'n cael adolygiad yn Sylw wedi cael pedair seran, a di hynny jesd ddim yn drysd
Rhithffurf defnyddiwr
GringoOrinjo
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 520
Ymunwyd: Gwe 16 Ebr 2004 9:48 pm

Re: Cylchgronau Cymraeg - beth i'w wneud?

Postiogan Madrwyddygryf » Mer 02 Medi 2009 1:08 pm

Newydd ddarllen Sylw nawr ac mae'n oce. Buaswn yn darllen bob hyn a hyn ond, wel, pobl yn mynd ymlaen am yr un hen bethau. Nid yw hyn yn erbyn y cylchgrawn oherwydd mae di cael ei dylunio'n wych.

Ar y llaw arall, buasai'n neis os fedrant cael hyd o bobl a fydd yn gallu ysgrifennu am bethau tu allan i pynciau traddodiadol ( annibynniaeth i Gymru, iaith Gymraeg, amgylchedd, gwleidyddiaeth traddodiadol y chwith)
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Cylchgronau Cymraeg - beth i'w wneud?

Postiogan Prysor » Gwe 11 Medi 2009 9:25 pm

Madrwyddygryf a ddywedodd:Ar y llaw arall, buasai'n neis os fedrant cael hyd o bobl a fydd yn gallu ysgrifennu am bethau tu allan i pynciau traddodiadol ( annibynniaeth i Gymru, iaith Gymraeg, amgylchedd, gwleidyddiaeth traddodiadol y chwith)


Ie, twt-twt ni Gymry drwg a digywilidd am feiddio ysgrifennu am y fath bethau! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Cylchgronau Cymraeg - beth i'w wneud?

Postiogan Rhys » Llun 14 Medi 2009 12:30 pm

Wedi darlen Sylw, dw i'n ei weld fel rhyw fath o halfway house rhwng Barn a Golwg, ond os oes rhaid dewis rhwng y ddau, basai'n well gyda fi wedl Barn yn parhau i gael cefnogaeth arian cyhoeddus. Does dim o'i le ar erthyglau am Gymru, y Gymraeg ayyb, ond roedd ambell erthygl/colofn yn Sylw yn ymdebygu i rant. Hefyd fel nodwyd (ar wefan Golwg360 dw i'n credu) parthed yr adolygiadau, pa mor ddiduedd all Sylw fod o ystyreid mai'r Lolfa sy'n cyhoedd i bron i hanner yr holl lyfrau Cymraeg.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Cylchgronau Cymraeg - beth i'w wneud?

Postiogan Prysor » Llun 14 Medi 2009 1:23 pm

Dwi di trio cadw allan o hyn oherwydd fod gen i golofn yn Sylw. Ond stwffio hynny, pam ddylswn i ddechra peidio rhoi fy marn oherwydd diddordeb personol? Sneb rioed wedi gallu prynu fy nhawelwch i, waeth pwy ydyn nhw.

Dwi ddim isio gweld Barn yn diflannu. Dwi isio fo newid chydig - cadw ei drymder (cymharol) gwleiddydol ond mynd yn fwy heriol a codi straeon go iawn (ac mae gormod o'r gwleidyddiaeth yn ymwneud efo'r iaith yn unig). Dwi isio fo hefyd fod yn llai 'elitaidd' (pob parch i theatr, ond mae gormod o theatr ynddo) a rhoi sylw i gelfyddyd a llenyddiaeth sydd ddim o reidrwydd yn ffitio mewn i gylchoedd cyfforddus y byd parchus, llosgachlyd, ddosbarth canol Cymraeg. (Does run o fy nofelau i wedi eu hadolygu ynddo, er engraifft, er eu poblogeiddrwydd diamheuol ymysg sawl haen a chefndir cymdeithasol - yn enwedig darllenwyr Cymraeg newydd o blith y dosbarth gweithiol). Arwahan i'r pethau hyn, mae'r cynnwys yn glodwiw a difyr tu hwnt.

Y Barn yr hoffwn i ei weld oedd Sylw i fod - a doeddwn ddim yn gwybod fod un yn ceisio cymeryd lle y llall, ond yn hytrach cystadlu efo'r llall oeddwn i'n gredu oedd y bwriad.

Cylchgrawn newydd heriol oedd yr hyn fwriadwyd, meddid wrthyf. Dwi'n gobeithio fod y rhifyn peilot wedi gorfod bod yn groes i hynny, ac yn amrywiol iawn ei gynnwys, er mwyn dangos i'r ariannwyr ddetholiad o'r hyn maent am ei gynnig os ceir penderfyniad o'i blaid. Hynny yw, os collir Barn, fydd y Sylw ddarllenis i yn bellach fyth o'r cylchgrawn yr hoffwn Barn i fod.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Cylchgronau Cymraeg - beth i'w wneud?

Postiogan Madrwyddygryf » Llun 14 Medi 2009 4:59 pm

Does dim byd mater hefo cystadluaeth wrth gwrs oherwydd mae na le i'r ddwy gylchgrawn dwi'n gobeithio.

Wel dwi'm isio nocio arlwy sydd ar gael yn y Sylw Prysor, mae na le i bethau am yr iaith Gymraeg, addysg, y ffordd i annibyniaeth achos mae o yn 'crowd pleaser'. Ond fe hoffem weld mwy o'r tu allan i'r pynciau traddodiadol yma.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Cylchgronau Cymraeg - beth i'w wneud?

Postiogan Ray Diota » Maw 15 Medi 2009 9:11 am

Odd 'da finne golofn yn Sylw, ond dwi hefyd yn meddwl bod Barn 'di gwella bethwmbreth. Yr unig beth weda i am y 'trymder' honedig ma sy'n perthyn i Barn: sawl gwaith ydech chi'n edrych trwy'r cynnwys a meddwl "I can't be arsed." Ma trymder yn iawn ond ma raid i Barn fod yn fwy accessible rhywsut...

Os oes ishe cylchgrawn newydd i gystadlu am arian cyhoeddus, yna cystadlu am arian Tu Chwith* sy angen. Ma ambell rifyn o hwnnw'n chwerthinllyd. Ffroenuchel er mwyn bod yn ffroenuchel - sai'n gallu gweld bo hwnnw'n cyfiawnhau'r gefnogaeth ma fe'n ei gal yn unrhyw ffordd...

* Ma'n well i fi nodi / cyfadde bo fi heb weld rhifyn ers amser maith
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Cylchgronau Cymraeg - beth i'w wneud?

Postiogan sian » Maw 15 Medi 2009 9:41 am

Madrwyddygryf a ddywedodd:Does dim byd mater hefo cystadluaeth wrth gwrs oherwydd mae na le i'r ddwy gylchgrawn dwi'n gobeithio.


Nac oes, dyna'r pwynt dwi'n meddwl - grant i un sy 'na.

Ray Diota a ddywedodd:* Ma'n well i fi nodi / cyfadde bo fi heb weld rhifyn ers amser maith


Ca dy ben 'te. :D
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Cylchgronau Cymraeg - beth i'w wneud?

Postiogan Ray Diota » Maw 15 Medi 2009 10:48 am

sian a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:* Ma'n well i fi nodi / cyfadde bo fi heb weld rhifyn ers amser maith


Ca dy ben 'te. :D


Na wnaf! Wy newydd fynd i edrych am y copi nath rhywun bostio ato fi ACHOS bod e'n crap... ma'r rhai o'r pethe yno fe yn anhygoel.
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Cylchgronau Cymraeg - beth i'w wneud?

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Maw 15 Medi 2009 12:48 pm

O dop fy mhen (brysiog hefyd- dim amser i fod yn fwy meddylgar):
Mae'r croesair yn Sylw yn effun joc. Tudalen flaen- dim byd yn erbyn AM, ond siomedig a di-ddychymyg. Fe gafon nhw ddigon o amser i feddwl am dudalen blaen difyr a thrawiadol. (Mae tudalennau blaen Barn wedi bod yn rhai gweddol dda ers sawl mis bellach).
Golwg- tudalen flaen boring bron pob wythnos. Amrywiaeth. Arbrofwch. Cymrwch ambell i risg!!
Llongyfarchiadau i Rob Gruff (Lolfa a Dyddiol Cyf.) a Ned Thom (Dyddiol Cyf.) am roi cic yn nhin effeithiol i'r byd darllen Cymraeg...
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

NôlNesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai