Henffych a Ffych Newydd ichi i gyd.
Ar nos Fawrth y 28ain o Orffennaf 2009, am 9 o'r gloch yr hwyr, darlledir rhaglen am 7 bardd Cymraeg ifanc, dawnus, golygus a [gosodwch ansoddair o'ch dewis fan hyn].
Y 7 bardd fydd:
Aneirin Karadog
Catrin Dafydd
Eurig Salisbury
Hywel Griffiths
Iwan Rhys
Osian Rhys Jones
Rhys Iorwerth
Bydd portreadau o'r beirdd, a bydd y beirdd yn ei dweud hi am farddoniaeth Gymraeg a'r dyfodol.
S4C: Teledu diwylliannol ar ei orau.
Oes gen i boster hysbysebu? Nacoes. Gresyn. Ond dyma le gwag i ddychmygu poster o'ch dewis:
Diolch