gan Prysor » Mer 12 Awst 2009 2:44 pm
ia wir, llongyfarchiadau gwresog iddo
ond dilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn, ar fesurau cynghanedd traddodiadol, ydyn nw, ac er na wnaeth y rheolau hi'n glir eleni (fel y gwnaethpwyd yn y gorffennol) na ddylid gwneud hynny - ac felly, roedd gan Ceri Wyn bob hawl, yn dechnegol, i ddefnyddio'r gynghanedd yn gyflawn - rydw i'n eithaf cadarn fy marn na ddylid sgwennu mewn cynghanedd gyflawn ar gyfer y Goron.
dau o dri beirniad roddodd hi iddo, ac roedd y ddau yn cydnabod fod cerdd Fferegs, oedd yn ail, yn agos iawn iawn iawn. Fferegs oedd enillydd y beirniad na roddodd ei bleidlais i Ceri. Mae'r ddau feirniad a roddodd y wobr i Ceri yn datgan yn glir mai nad y ffaith ei bod mewn cynghanedd a'u lliwiodd. Does dim rheswm i beidio credu hynny. Ond camp cynghanedd ydi cynnildeb ar rythm bendant sydd yn swyno unrhyw un sydd a chlust i eiriau a barddoniaeth. Mae'n deg gofyn, felly, os fu'r gynghanedd yn ddylanwad ar eu mwynhad o'r cerddi (ac yn ddylanwad wrth hollti rhwng Ceri a Fferegs)?
wrth gwrs ei bod hi! Ond bu crefft nyddu geiriau y beirdd rhydd yn cyfrannu i fwynhad y beirniaid o'u cerddi hwythau, hefyd, wrth gwrs.
Eto, alla i ddim helpu teimlo fod gan y dilyniant buddugol gerdyn trymps yng nghlecian ei gynghanedd. Doedd dim byd o'i le yn dechnegol yn hynny (y tro yma). Ond yn foesol?
gwobr i ddisgyblaeth cwbl wahanol - barddoniaeth rhydd - yw maes y Goron. Mae pawb yn gwybod hynny, boed loophole neu slip bach yn y rheolau ai peidio.
Synnwn i ddim mai trio er mwyn gweld beth fyddai'r ymateb, yn unig, oedd Ceri Wyn Jones (yn sicr, fyswn i ddim yn ei gyhuddo o unrhyw ymgais sinigaidd) a bod ei ddilyniant yn haeddu bod ymysg y goreuon boed ynddi gynghanedd ai peidio. Ond - a heb dynnu dim ar gamp Ceri Wyn Jones - mi ydw i'n teimlo yn fy mer fod yr hyn a ddigwyddodd braidd yn anheg ar feirdd y ddisgyblaeth rydd.
be di barn llengarwyr eraill Maes-e? Ai coup d'etat gwych i'r beirdd caeth, neu ai ergyd dan y belt i'r beirdd rhyddion? Dowch laen - bu'r drafodaeth yn go danbaid ar Faes y Brifwyl yn ol yr hyn a ddeallaf. Peidiwch bod ofn. A peidiwch ista ar y ffens!