Llongyfarchiadau, Ceri

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Llongyfarchiadau, Ceri

Postiogan Hazel » Iau 06 Awst 2009 11:06 pm

Roedd yn dda gweld Ceri Wyn Jones yn derbyn y goron. Dw i wedi darllen ei farddoniaeth ac ei golofn yn Bardd am sbel. Mae o’n haeddu’r anrhydedd. Ac roedd y seremoni’n brydferth, aruthrol.

Da iawn, Ceri. Llongyfarchiadau i chi ble bynnag y boch.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Llongyfarchiadau, Ceri

Postiogan Prysor » Mer 12 Awst 2009 2:44 pm

ia wir, llongyfarchiadau gwresog iddo

ond dilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn, ar fesurau cynghanedd traddodiadol, ydyn nw, ac er na wnaeth y rheolau hi'n glir eleni (fel y gwnaethpwyd yn y gorffennol) na ddylid gwneud hynny - ac felly, roedd gan Ceri Wyn bob hawl, yn dechnegol, i ddefnyddio'r gynghanedd yn gyflawn - rydw i'n eithaf cadarn fy marn na ddylid sgwennu mewn cynghanedd gyflawn ar gyfer y Goron.

dau o dri beirniad roddodd hi iddo, ac roedd y ddau yn cydnabod fod cerdd Fferegs, oedd yn ail, yn agos iawn iawn iawn. Fferegs oedd enillydd y beirniad na roddodd ei bleidlais i Ceri. Mae'r ddau feirniad a roddodd y wobr i Ceri yn datgan yn glir mai nad y ffaith ei bod mewn cynghanedd a'u lliwiodd. Does dim rheswm i beidio credu hynny. Ond camp cynghanedd ydi cynnildeb ar rythm bendant sydd yn swyno unrhyw un sydd a chlust i eiriau a barddoniaeth. Mae'n deg gofyn, felly, os fu'r gynghanedd yn ddylanwad ar eu mwynhad o'r cerddi (ac yn ddylanwad wrth hollti rhwng Ceri a Fferegs)?

wrth gwrs ei bod hi! Ond bu crefft nyddu geiriau y beirdd rhydd yn cyfrannu i fwynhad y beirniaid o'u cerddi hwythau, hefyd, wrth gwrs.

Eto, alla i ddim helpu teimlo fod gan y dilyniant buddugol gerdyn trymps yng nghlecian ei gynghanedd. Doedd dim byd o'i le yn dechnegol yn hynny (y tro yma). Ond yn foesol?

gwobr i ddisgyblaeth cwbl wahanol - barddoniaeth rhydd - yw maes y Goron. Mae pawb yn gwybod hynny, boed loophole neu slip bach yn y rheolau ai peidio.

Synnwn i ddim mai trio er mwyn gweld beth fyddai'r ymateb, yn unig, oedd Ceri Wyn Jones (yn sicr, fyswn i ddim yn ei gyhuddo o unrhyw ymgais sinigaidd) a bod ei ddilyniant yn haeddu bod ymysg y goreuon boed ynddi gynghanedd ai peidio. Ond - a heb dynnu dim ar gamp Ceri Wyn Jones - mi ydw i'n teimlo yn fy mer fod yr hyn a ddigwyddodd braidd yn anheg ar feirdd y ddisgyblaeth rydd.

be di barn llengarwyr eraill Maes-e? Ai coup d'etat gwych i'r beirdd caeth, neu ai ergyd dan y belt i'r beirdd rhyddion? Dowch laen - bu'r drafodaeth yn go danbaid ar Faes y Brifwyl yn ol yr hyn a ddeallaf. Peidiwch bod ofn. A peidiwch ista ar y ffens!
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Llongyfarchiadau, Ceri

Postiogan Mr Gasyth » Mer 12 Awst 2009 3:47 pm

Dwi'n tueddu i gytuno efo ti Prysor. Boed cerddi Ceri Wyn o fewn llythyren y rheolau ai peidio, y gwir ydi nad oedden nhw - a fod Ceri Wyn yn gwybod hynny - o fewn ysbryd y rheolau.

Bosib iawn, fel ti'n deud, mai cystadlu o ran 'myraeth oedd o, ac ei fod yn hanner disgwyl i'r gerdd gael ei di-ystyrru. Yn sicir, buaswn i'n dychmygu y bydd Fferegs (pwy bynnag y bo - ysgwnni os cawn wybod) yn teimlo'n siomedig iawn ac o bosib ychydig bahc yn ddig.

Un peth sy'n saff, fydd yna ddim amwysedd yn y rheolau o hyn allan!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Llongyfarchiadau, Ceri

Postiogan Hazel » Mer 12 Awst 2009 4:33 pm

Prysor a ddywedodd: rydw i'n eithaf cadarn fy marn na ddylid sgwennu mewn cynghanedd gyflawn ar gyfer y Goron.


Dyna beth oeddwn i'n meddwl. Does dim angen Cadair os ydy cynghanedd mewn gystadleuaeth i'r Goron. Ond, beth ydw i'n gwybod? Dim yn llawer.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Llongyfarchiadau, Ceri

Postiogan CORRACH » Iau 13 Awst 2009 12:27 am

Mr Gasyth a ddywedodd:Boed cerddi Ceri Wyn o fewn llythyren y rheolau ai peidio, y gwir ydi nad oedden nhw - a fod Ceri Wyn yn gwybod hynny - o fewn ysbryd y rheolau.!


does erioed "ysbryd" wedi bod i'r rheolau, dim ond bod y Cymry dros y blynyddoedd wedi plygu i'r un ffordd o feddwl am ddim rheswm ond gwyleidd-dra i reolau sydd ddim yn bodoli. Chwarae teg i Ceri Wyn am herio. Mae'r cerddi yn anhygoel, cynghanedd neu beidio.

Does neb wedi gwneud dim o'i le yn ôl ysbryd na rheolau cystadleuaeth. Yr unig beth sy'n amlwg am ddigwydd ydi bod y Steddfod am dynhau'r rheolau o hyn ymlaen, a dyna ni.

Does dim dadl i'w gael â deud y gwir, er bod S4C a Golwg wedi trio eu gorau i greu anghydfod o'r peth.
Rhithffurf defnyddiwr
CORRACH
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 894
Ymunwyd: Sul 14 Maw 2004 6:53 pm
Lleoliad: Llyn Cwm Llwch

Re: Llongyfarchiadau, Ceri

Postiogan Muralitharan » Iau 13 Awst 2009 3:02 pm

Maen nhw'n gerddi gwych. Yn y pen draw dyna'r peth pwysica.

Wedi dweud hynny, mae'n bwysig fod cystadleuaeth y Goron yno ar gyfer y canu rhydd. Dwi'n siwr y bydd yr awdurdodau yn tynhau'r amodau i sicrhau hynny - er, fe all ei bod hi'n rhy hwyr eisoes ar gyfer Glyn Ebwy. Mi fyddwn i'n cefnogi'r camau hynny.

Rhaid sicrhau dyfodol cystadleuaeth y Goron.

Mae yna ychydig amwysedd wrth gwrs - beth am y wers rydd gynganeddol? A oes lle i honno yng nghystadleuaeth y Goron? Mae rhai wedi ennill ar y mesur hwnnw - e.e. Alan Llwyd a Donald Evans.
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Llongyfarchiadau, Ceri

Postiogan Cymru Fydd » Mer 30 Medi 2009 7:43 pm

Dydw i ddim yn deall pam bod cymaint o bobl yn feirniadol o Ceri am ei gamp.
Meic Stephens oedd "Fferegs". Mae rhai wedi gwneud rhyw w-ha fawr o'r ffaith fod Ceri Wyn wedi amddifadu Meic o Goron y mae'n ei haeddu am ei holl waith di-flino i fyd llenyddiaeth. Bwlshit. Mi odd cerdd Ceri Wyn yn well, a dyne fo.
Cofiwch mai cyfyngu'r bardd a wna'r gynghanedd. Onid yw Ceri wedi cyflawni camp aruthrol wrth wneud i'r cerddi redeg mor rhwydd (ac angerddol)? Ac os yw'r gynghanedd a'r mesurau traddodiadol wedi rhoi "mantais" iddo, ydi'r beirdd rhydd felly yn cydnabod bod eu camp yn israddol i gamp y sawl sy'n ymgiprys am y Gadair? A yw'r Goron felly yn wobr i'r prentisiaid? Nac ydi siwr. Mae'n rhoi rhyddid i bawb ddewis ei fesur ei hun. Dylai hyn roi rhyddid di-ben-draw i'r beirdd. Felly pam nad oes campweithiau yn cael eu creu? Mae Ceri Wyn wedi ennill y ras wrth orfod cario pwysau ychwanegol y gynghanedd ar ei gefn; onid yw hyn yn dangos cryfder ychwanegol?
Tyfwch i fyny, feirdd rhydd. Peidiwch a bod mor blentynnaidd a sur, a pheidiwch â phwdu oherwydd fod un o'r "caethion" wedi ymyrryd â'ch cystadleuaeth. Triwch eto flwyddyn nesa. Ar gynghanedd, efallai. Mae gynnoch chi ychydig fisoedd i'w meistroli.
"Maes-e yw'r lle am seiat!"
Cymru Fydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 16
Ymunwyd: Maw 05 Chw 2008 9:43 pm

Re: Llongyfarchiadau, Ceri

Postiogan Rolant y Gors » Mer 30 Medi 2009 8:31 pm

Diolch am y bregeth hunanbwysig CymrU Fydd. Neu yn fwy manwl, diolch am y row. Dwi'n siwr fydd y 'beirdd rhydd' yn rhoi taw ar eu conan a brysio am y dosbarth cynganeddu agosaf efo'u cynffonau rhwng eu tinau.

Un peth sydd yn fy nharo'n od. Ti'n awgrymu fod beirdd rhydd yn dweud fod eu crefft hwy yn israddol i'r grefft gaeth, a ti'n datgan fod y gynghanedd yn fwy o grefft a champ gan ei bod yn 'cyfyngu bardd' ac yn gwneud iddo / iddi gario mwy o faich ar ei ysgwyddau.

Felly gwna dy feddwl i fyny. Ydi'r gynghanedd yn fwy o grefft - ac felly yn rhoi mantais i'r enillydd (yn yr achos yma), neu ydi ddim?

Dyna mhwynt. Mi grwydraf rwan...

Diflas ar y diawl ydi rhan fwyaf o farddoniaeth Cymraeg y dyddiau hyn fodd bynnag. Mae'r elfen 'dweud rhywbeth' a gyrru neges adref wedi ei anghofio, ac yn ei le mae dwy fath o gerdd - y rhai efo'r pwyslais hunanbwysig Methodistaidd Cymraeg ar rethreg, a'r rhai llawn blandrwydd post modern nouveau-bourgeoise rhyngwladol. Canlyniad y cymysgadd yma ydi cacan ddiflas, lwyd o gerddi hunanfoddhaol, gan feirdd hunanfodlon, ar gyfer cynulleidfa hunanfodlon a digymeriad y diwydiant ticio ffurflenni yng Nghaerdydd. Be di gwerth diwylliant o'r fath? Yr un fath a'r gacan - ffyc ol.

Fedrwn i byth ddweud fod cerdd Ceri yn rhan o'r gacan honno. Ond - heblaw am y gynghanedd, efallai - wela i ddim byd sy'n ei gosod ym mhantri barddoniaeth gwefreiddiol chwaith. Dyw hi'n gwneud dim byd i fi beth bynnag. Ond mater o farn yw hyn.

Onibai am weithiau rhyw gwta dros hanner dwsin o feirdd (a'r to ifanc yn eu mysg), does dim byd yn fy ysgwyd i'r carn ymysg barddoniaeth cyfoes cyhoeddiedig Cymraeg. Mae'r beirdd mwyaf dychmygus, heriol a thraddodiadol i'w cael ar lawr gwlad.

Tra'r ydym ni yma'n twyllo ein hunain ein bod ni'n genedl gorwych a'n diwylliant aruchel, mae dwr croyw nant y mynydd wedi llonyddu ac yn brysur droi yn ferddwr de-caff o Starbucks. Mae'r 'edge' bellach i'w gael bron yn ddiarwahan trwy gyfrwng barddoniaeth Saesneg ei iaith. Be sy? Ydan ni'n rhy gyfforddus yn ein byd bach post-Deddf Iaith?
pwy wnaeth y sêr uwchben, Saaaaaimon Cowell
Rhithffurf defnyddiwr
Rolant y Gors
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 16
Ymunwyd: Sad 06 Maw 2004 3:38 pm

Re: Llongyfarchiadau, Ceri

Postiogan Cymru Fydd » Mer 30 Medi 2009 9:18 pm

Ni wnes i honni fod y canu rhydd yn israddol i'r canu caeth. Gofyn cwestiwn rhethregol a wnes i; os yw'r beirdd rhydd yn cwyno bod y Gynghanedd yn rhoi mantais, a ydyn nhw yn cyfaddef fod eu camp hwy yn llai? Ni wnes i roi ateb i'r cwestiwn hwnnw; dim ond dod ag un anghysondeb i'r wyneb.
Ydw, efallai fy mod i yn ochri gyda'r beirdd caeth. Ond nid yw hynny yn golygu nad oes gen i barch at y beirdd rhydd. Rhwydd hynt i bawb i wneud fel ag y mynno, ac ni ddylai fy hoffter i o'r Gynghanedd niwlio fy nealltwriaeth o hyn. Mewn geiriau eraill, mae'r canu caeth yn fy nenu oherwydd ei hud (barn bersonol), ac nid oherwydd gwendidau y canu rhydd.
Efallai fod y cynnyrch gorffenedig ar Gynghanedd yn rhoi ychydig o fantais i Ceri Wyn. Ond dyma'r peth: y rheswm ei fod yn rhoi mantais yw oherwydd dawn wych Ceri Wyn i drin y geiriau. Pe bai bardd arall yn ysgrifennu awdl neu gerddi caeth i'r goron, fe fyddai'n gwneud ffwl o'i hun gan y byddai efallai'n cael ei gadwyno i'r unfan gan y rheolau. Llwyddodd Ceri Wyn i ddiosg yr hualau hyn a chanu cerdd angerddol. Cerdd seml, ond angerddol. A chan ei bod ar y Gynghanedd, wrth gwrs, mae clecian y cytseiniaid yn rhoi gwefr ychwanegol i'r canu. Onid yw hyn yn brawf estynedig o deilyngdod cyfangwbl Ceri?
Rydw i hefyd yn hoff iawn o rai enghreifftiau o ganu rhydd. TH Parry Williams a Waldo yn enwedig; ystrydebol, mi wn, ond nid oes gwadu eu dawn. Rhaid dweud na chefais yr un wefr yn y pryddestau/dilyniannau diweddar ag yr wy'n ei gael gan y beirdd hynny ar droad y ganrif ddiwethaf. Canodd Ceri Wyn gerdd delynegol iawn, a ni ddylai dig dynnu oddi wrth ei anrhydedd.
Nid i godi cwenc y deuthum yma, ond i leisio barn. Nid i sarhau y beirdd rhydd ychwaith - fe gaiff pawb ei gyfle.
"Maes-e yw'r lle am seiat!"
Cymru Fydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 16
Ymunwyd: Maw 05 Chw 2008 9:43 pm

Re: Llongyfarchiadau, Ceri

Postiogan Cymru Fydd » Mer 30 Medi 2009 9:27 pm

Gyda llaw, dydw i ddim yn cydweld â'th farn am farddoniaeth Saesneg. Mae'n anochel fy mod yn hynod o un-llygeidiog, ond mae rhywbeth ar goll ynddo i'm clust i. Cymer "The Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry" fel enghraifft. Dydi o ddim... 'run peth, rywsut. Mae 'na angerdd yn y canu Cymraeg. Ie, rhagfarn llwyr ydi hynny. Ond mi ydw i'n falch o'r rhagfarn hwnnw. Os na fedar Cymro ramantu am ei farddoniaeth ei hun, wel mae hi wedi cachu arnon ni fel cenedl.
"Maes-e yw'r lle am seiat!"
Cymru Fydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 16
Ymunwyd: Maw 05 Chw 2008 9:43 pm

Nesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai

cron