Tudalen 1 o 2

Y Tiwniwr Piano gan Catrin Dafydd

PostioPostiwyd: Sad 08 Awst 2009 9:17 am
gan Dicsi
Dyma nofel ddigri iawn sy'n werth i chi gyd ei darllen. Mi gadwodd hi i mi chwerthin a gwenu at ei digrifwch a'i beiddgarwch. :D
Ond er y digrifwch dan yr wyneb mae yma awdur craff wrth ei gwaith. Beth amdanoch chi - oes rhai eraill o ddefnyddwyr y maes wedi ei darllen?

Re: Y Tiwniwr Piano gan Catrin Dafydd

PostioPostiwyd: Sad 08 Awst 2009 11:29 am
gan Hazel
Digri? Da iawn. Roeddwn i'n meddwl am ei brynu fe. Yn nawr, byddaf. Mae angen arna chwerthin. Diolch. :lol:

Re: Y Tiwniwr Piano gan Catrin Dafydd

PostioPostiwyd: Llun 21 Medi 2009 2:29 pm
gan Hazel
Wel, ar y naill law, nac ydw. Dw i ddim yn hoffi'r llyfr yma o gwbl. Dim ond fy marn.

Re: Y Tiwniwr Piano gan Catrin Dafydd

PostioPostiwyd: Llun 21 Medi 2009 2:44 pm
gan sian
Hazel a ddywedodd:Wel, ar y naill law, nac ydw. Dw i ddim yn hoffi'r llyfr yma o gwbl. Dim ond fy marn.


Pam nad oeddet ti'n ei hoffi?
Ai achos dy fod yn teimlo ei bod yn rhaid i ti fod yn gyfarwydd â bywyd Cymraeg Caerdydd cyn ei werthfawrogi?

(Dydw i ddim wedi'i ddarllen eto, gyda llaw)

Re: Y Tiwniwr Piano gan Catrin Dafydd

PostioPostiwyd: Llun 21 Medi 2009 3:19 pm
gan Hazel
sian a ddywedodd:
Hazel a ddywedodd:Wel, ar y naill law, nac ydw. Dw i ddim yn hoffi'r llyfr yma o gwbl. Dim ond fy marn.


Pam nad oeddet ti'n ei hoffi?
Ai achos dy fod yn teimlo ei bod yn rhaid i ti fod yn gyfarwydd â bywyd Cymraeg Caerdydd cyn ei werthfawrogi?

(Dydw i ddim wedi'i ddarllen eto, gyda llaw)


Nage. Dydw i ddim yn meddwl bod bywyd Cymraeg Caerdydd yn unrhyw wahanol na bywyd unrhyw le arall. A dydw i ddim yn credu bod hynny'n yr holl o fywyd yn Caerdydd. Dim ond na fod o'n fy math o stori na fy math o ysgrifennu. A nid bod o'n digrif i mi, chwaith. Felly, ydw i ddim yn ei orffen o. "I bob dyn ei hun."

Re: Y Tiwniwr Piano gan Catrin Dafydd

PostioPostiwyd: Llun 21 Medi 2009 7:18 pm
gan Macsen
Ro'n i'n meddwl ei fod o'n lyfr eitha' da. Dw i'm yn credu ei fod o mor ddadlennol a beiddgar a mae'r spiel ar y cefn yn ei awgrymu. Mae yna gymaint o lyfrau a rhagleni teledu Cymraeg ar y funud sy'n dangos nad yw'r Cymru Cymraeg parchus mor barchus a hynny mewn gwirionedd (Cymru Fach / Caerdydd / nofelau Llwyd Owen / Owen Martell / Dewi Prysor ayyb). Ok, mae na Gymru Cymraeg hoyw, rhai sy'n cael affairs, mae nhw'n yfed a chymryd cyffuriau. Digon teg dangos hynny, ond dyle hynny ddim fod yn raison d'être y nofel, achos dydyi o ddim wir yn sioc i neb erbyn hyn.

Ond oni'n teimlo yn yr ail hanner ei fod o'n rhoi'r gorau i drio bod yn sylwebaeth gignoeth ar fywydau trigolion Caerdydd ayyb a troi'n nofel dipyn gwell am bobol ifanc yn eu 30au, ar y ffin anodd yna rhwng byw ryw fywyd quasi-stwidantaidd a gorfod setlo lawr a dechrau teulu. Ac yn lle twt twtian y cymeriadau mae'n eitha cydymdeimladol tuag atyn nhw. Ro'n i'n hoffi cymeriadau Efan, Crid a Pont yn enwedig.

Re: Y Tiwniwr Piano gan Catrin Dafydd

PostioPostiwyd: Maw 22 Medi 2009 3:27 pm
gan Kez
Newydd ddechrau darllin y nofel odw i ac rwyf inna'n ei gweld hi'n beiddgar ac yn agoriad llygad.

Fi ond ar dudalen 35 ond ar dudalen 31 dyma un o'r prif gymeriadau - Crid - yn trefnu cwrdd a'i ffrind hoyw ym Mharc y Rhath. Mae awr sbar 'da ddi cyn y cyfarfod ac felly dyma hi'n mynd ati i roi ei llaw rhwnt ei choesau a chwarae gyda'i chlitoris.

Own i'n shocked - odd e heb groesi 'meddwl i bod menwod parchus yn neud shwt beth! :o

Fi'n ofan troi'r tudalennau nawr rog ofan bydd Crid yn dechrau neud rwpath arall on the spur of the moment :ofn:

Re: Y Tiwniwr Piano gan Catrin Dafydd

PostioPostiwyd: Maw 22 Medi 2009 4:05 pm
gan osian
Ma hwnna yn sboiler! newch chi plis beidio datgelu rhywioldeb neb arall heb rybudd, dwi ar dudalan 5...
mai'n edrach yn addawol iawn hyd yma.

Re: Y Tiwniwr Piano gan Catrin Dafydd

PostioPostiwyd: Maw 22 Medi 2009 4:42 pm
gan Kez
Nage sboiler odd hwnna. Does neb yn gwpod a yw ffrind Crid yn gay neu bido (lan at dud. 35 ta p'un i). Ma hi jyst yn meddwl bo fe'n gay am ei fod e'n camp. Wi'n dueddol o gytuno a hi am bo fe'n moyn cwrdd lan i fynd am dro rownd Parc y Rhath gida ddi. Bysa ffrind stret yn trefnu cwrdd lan mewn pub! Gewn ni ffindo mas nes mlan siwr o fod.

Re: Y Tiwniwr Piano gan Catrin Dafydd

PostioPostiwyd: Maw 22 Medi 2009 4:43 pm
gan osian
Sori, newydd ddarllan y negas yn iawn. onin meddwl mai Crid sydd yn troi allan yn hoyw.