Tudalen 2 o 2

Re: Y Tiwniwr Piano gan Catrin Dafydd

PostioPostiwyd: Mer 23 Medi 2009 3:25 am
gan Kez
Ifi newydd bennu'r llyfyr 'ma nawr a joio mas draw - 10 mas o 10!

Ma digon o ryw, masturbation clitoraidd, hiwmor, brad a thwyll i ddifyrru pawb - wel, bach gormod i rywrai sbo!

Mae geiriau Syr Walter Scott yn dod i'r cof wrth ei ddarllin:

Oh what a tangled web we weave,
When first we practice to deceive!


Bysa'n braf inni gal post scriptum ne ddilyniant i'r nofel inni gal gwpod beth yw canlyniadau'r holl frad a thwyll i'r cymeriadau wrth iddynt basio eu tri-deg.

Re: Y Tiwniwr Piano gan Catrin Dafydd

PostioPostiwyd: Iau 24 Medi 2009 6:19 pm
gan Macsen
Kez a ddywedodd:Bysa'n braf inni gal post scriptum ne ddilyniant i'r nofel inni gal gwpod beth yw canlyniadau'r holl frad a thwyll i'r cymeriadau wrth iddynt basio eu tri-deg.

Tiwniwr Piano II: Mas o Diwn! Lle mae Efan yn mynd ar rampage Travis Bickle-aidd i olchi'r sgum oddi ar strydoedd Caerdydd drwy eu crogi gyda weiar piano.

Re: Y Tiwniwr Piano gan Catrin Dafydd

PostioPostiwyd: Mer 19 Ion 2011 11:09 am
gan blanced_oren
Dwi wir yn mwynhau'r nofel 'ma. I fod yn onest dwi heb ddarllen unrhyw nofelau ers sbel ac mae hi wedi fy ysbrydoli i ddarllen mwy!