Dic Jones (Dic yr Hendre) wedi marw yn 75

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dic Jones (Dic yr Hendre) wedi marw yn 75

Postiogan Ger Rhys » Maw 18 Awst 2009 1:01 pm

Daeth newyddion trist am farwolaeth Dic Jones heddiw. Fel bardd a ffarmwr oedd yn agos iawn i'w fro, y diwydiant amaeth a Chymru, yr oedd miloedd hyd a lled y wlad ac o bob haen yn ein cymdeithas yn gallu uniaethu ag o a'i farddoniaeth. Yn golled enfawr a bwlch gyfan wedi ei adael ar ei ol.

Mae'r newyddion i'w weld ar wefan y BBC http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8 ... 103188.stm
Dilyn hynt y cerrynt caeth
mae deilen fy modolaeth...
Rhithffurf defnyddiwr
Ger Rhys
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Llun 20 Meh 2005 12:59 pm
Lleoliad: Ar daith rhwng Dolgellau ac Aber

Re: Dic Jones (Dic yr Hendre) wedi marw yn 75

Postiogan CORRACH » Maw 18 Awst 2009 1:24 pm

Colled mawr i'r genedl am ei fod cymaint o gymeriad yn ogystal â bod yn un o feirdd mwya (os nad y bardd mwya) dylanwadol ei oes.

Atgofion hyfryd iawn amdano sydd gen i.

Parch.
Rhithffurf defnyddiwr
CORRACH
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 894
Ymunwyd: Sul 14 Maw 2004 6:53 pm
Lleoliad: Llyn Cwm Llwch

Re: Dic Jones (Dic yr Hendre) wedi marw yn 75

Postiogan Hazel » Maw 18 Awst 2009 1:51 pm

Mae o'n wedi mynd ohonon. 'Na colled! :(
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Dic Jones (Dic yr Hendre) wedi marw yn 75

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Iau 20 Awst 2009 10:38 am

Dyn cyffredin hefo dawn anghyffredin. Y math gorau o gawr talentog diymhongar.

Colled i'r Byd Cymraeg. Fel Ray Gravell.
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Dic Jones (Dic yr Hendre) wedi marw yn 75

Postiogan Ray Diota » Gwe 21 Awst 2009 12:30 am

o'n i'n lico be iwson nhw ar Wales Today p'ddwrnod, fe'n gweud:

"I farm for my bread and butter and i write for some jam on top!"

:)
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Dic Jones (Dic yr Hendre) wedi marw yn 75

Postiogan Creyr y Nos » Gwe 21 Awst 2009 8:03 am

Ray Diota a ddywedodd:o'n i'n lico be iwson nhw ar Wales Today p'ddwrnod, fe'n gweud:

"I farm for my bread and butter and i write for some jam on top!"

:)


Weles i hwnna, gwych.
Colled fawr iawn. O'dd e'n foi hyfryd, wastad a digon o amser i siarad da rhywun. Llefarwr gore o gerdd glywes i erioed. Legend.
Ma'r angladd yn breifat, ond fi'n credu bod yna wasaneth coffa yn Aberteifi ar ddydd Sadwrn y 5ed o Fedi.
'Don't piss down my back and tell me it's rainin' - The Outlaw Josey Wales

Dewrion yw adar y nos
Rhithffurf defnyddiwr
Creyr y Nos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 395
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 8:30 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Dic Jones (Dic yr Hendre) wedi marw yn 75

Postiogan finch* » Gwe 21 Awst 2009 9:45 am

Odd e'n od gweld y llunie ohono fe'n ennill y Gader yn edrych mor ifanc ar y rhaglen goffa noson o'r blan. Ma fe wastad wedi taro fi fel un o'r bobol na sy wastad yn hen ond yn fythol ifanc ei ffordd. Trueni.
Jeff Tarango - There must be two, three thousand people here!
Michael Stich - Well is it two or three?
Rhithffurf defnyddiwr
finch*
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2090
Ymunwyd: Gwe 03 Medi 2004 12:38 pm
Lleoliad: Yn cuddio

Re: Dic Jones (Dic yr Hendre) wedi marw yn 75

Postiogan dawncyfarwydd » Gwe 21 Awst 2009 11:11 am

Coffâd ardderchog gan Meic Stephens yma: http://www.independent.co.uk/news/obitu ... 75102.html
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Dic Jones (Dic yr Hendre) wedi marw yn 75

Postiogan Y Pesimist » Gwe 21 Awst 2009 5:41 pm

Ray Diota a ddywedodd:o'n i'n lico be iwson nhw ar Wales Today p'ddwrnod, fe'n gweud:

"I farm for my bread and butter and i write for some jam on top!"

:)


Un o'r llinellau gorau a gafodd ei ysgrifennu gan un o'r beirdd gora. Colled enfawr i ni fel cenedl sydd yn amlwg wedi bod yn sioc i ni gyd hyd yn oed os oedd pethau yn edrych yn wael arno wedi iddo fethu a mynychu'r Brifywl yn y Bala
Rant Yr Wythnos
Fformarli nown as 'Ffrind llan_clan'
Rhithffurf defnyddiwr
Y Pesimist
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 143
Ymunwyd: Gwe 03 Awst 2007 11:29 am
Lleoliad: Y Blaned Besimistaidd

Re: Dic Jones (Dic yr Hendre) wedi marw yn 75

Postiogan Hazel » Gwe 21 Awst 2009 6:05 pm

"Cyffwrddodd bys Duw ac e, a chysgodd."
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Nesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 3 gwestai