Tudalen 1 o 2

Dic Jones (Dic yr Hendre) wedi marw yn 75

PostioPostiwyd: Maw 18 Awst 2009 1:01 pm
gan Ger Rhys
Daeth newyddion trist am farwolaeth Dic Jones heddiw. Fel bardd a ffarmwr oedd yn agos iawn i'w fro, y diwydiant amaeth a Chymru, yr oedd miloedd hyd a lled y wlad ac o bob haen yn ein cymdeithas yn gallu uniaethu ag o a'i farddoniaeth. Yn golled enfawr a bwlch gyfan wedi ei adael ar ei ol.

Mae'r newyddion i'w weld ar wefan y BBC http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8 ... 103188.stm

Re: Dic Jones (Dic yr Hendre) wedi marw yn 75

PostioPostiwyd: Maw 18 Awst 2009 1:24 pm
gan CORRACH
Colled mawr i'r genedl am ei fod cymaint o gymeriad yn ogystal â bod yn un o feirdd mwya (os nad y bardd mwya) dylanwadol ei oes.

Atgofion hyfryd iawn amdano sydd gen i.

Parch.

Re: Dic Jones (Dic yr Hendre) wedi marw yn 75

PostioPostiwyd: Maw 18 Awst 2009 1:51 pm
gan Hazel
Mae o'n wedi mynd ohonon. 'Na colled! :(

Re: Dic Jones (Dic yr Hendre) wedi marw yn 75

PostioPostiwyd: Iau 20 Awst 2009 10:38 am
gan Wylit, wylit Lywelyn
Dyn cyffredin hefo dawn anghyffredin. Y math gorau o gawr talentog diymhongar.

Colled i'r Byd Cymraeg. Fel Ray Gravell.

Re: Dic Jones (Dic yr Hendre) wedi marw yn 75

PostioPostiwyd: Gwe 21 Awst 2009 12:30 am
gan Ray Diota
o'n i'n lico be iwson nhw ar Wales Today p'ddwrnod, fe'n gweud:

"I farm for my bread and butter and i write for some jam on top!"

:)

Re: Dic Jones (Dic yr Hendre) wedi marw yn 75

PostioPostiwyd: Gwe 21 Awst 2009 8:03 am
gan Creyr y Nos
Ray Diota a ddywedodd:o'n i'n lico be iwson nhw ar Wales Today p'ddwrnod, fe'n gweud:

"I farm for my bread and butter and i write for some jam on top!"

:)


Weles i hwnna, gwych.
Colled fawr iawn. O'dd e'n foi hyfryd, wastad a digon o amser i siarad da rhywun. Llefarwr gore o gerdd glywes i erioed. Legend.
Ma'r angladd yn breifat, ond fi'n credu bod yna wasaneth coffa yn Aberteifi ar ddydd Sadwrn y 5ed o Fedi.

Re: Dic Jones (Dic yr Hendre) wedi marw yn 75

PostioPostiwyd: Gwe 21 Awst 2009 9:45 am
gan finch*
Odd e'n od gweld y llunie ohono fe'n ennill y Gader yn edrych mor ifanc ar y rhaglen goffa noson o'r blan. Ma fe wastad wedi taro fi fel un o'r bobol na sy wastad yn hen ond yn fythol ifanc ei ffordd. Trueni.

Re: Dic Jones (Dic yr Hendre) wedi marw yn 75

PostioPostiwyd: Gwe 21 Awst 2009 11:11 am
gan dawncyfarwydd
Coffâd ardderchog gan Meic Stephens yma: http://www.independent.co.uk/news/obitu ... 75102.html

Re: Dic Jones (Dic yr Hendre) wedi marw yn 75

PostioPostiwyd: Gwe 21 Awst 2009 5:41 pm
gan Y Pesimist
Ray Diota a ddywedodd:o'n i'n lico be iwson nhw ar Wales Today p'ddwrnod, fe'n gweud:

"I farm for my bread and butter and i write for some jam on top!"

:)


Un o'r llinellau gorau a gafodd ei ysgrifennu gan un o'r beirdd gora. Colled enfawr i ni fel cenedl sydd yn amlwg wedi bod yn sioc i ni gyd hyd yn oed os oedd pethau yn edrych yn wael arno wedi iddo fethu a mynychu'r Brifywl yn y Bala

Re: Dic Jones (Dic yr Hendre) wedi marw yn 75

PostioPostiwyd: Gwe 21 Awst 2009 6:05 pm
gan Hazel
"Cyffwrddodd bys Duw ac e, a chysgodd."